google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cofnodi’r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg ers dros wyth mlynedd

Mae’r llywodraeth yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Ond gan fod yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn darparu canlyniadau bob chwarter, mae’n ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Mae’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai’r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg oedd 14,881.

Mae’r arolwg wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’n dal yn briodol defnyddio’r ystadegau hyn, fodd bynnag, mae ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy’n deillio o’r ABB, a dylid ystyried ffigyrau’r ABB ochr yn ochr â data eraill ar siaradwyr Cymraeg.”


BBC News

Advertisements

See also  Cael tâl tra'n hyfforddi'n helpu denu athrawon uwchradd

Check Also

Significant fall in the percentage of children who can speak Welsh, a survey reveals

He said: “Knowing that up to 23% of primary pupils are in Welsh education and …

Swansea man jailed for plot to smuggle drugs in hollowed-out rope

Wright said police also found a large number of messages which Smith had been exchanging …

‘Rare opportunity’ to buy land including Zip World and two power stations

A huge estate featuring an outdoor adventure park, a hotel and historic quarries, set within …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime