google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cofio Sgrech – y cylchgrawn bop wnaeth danio’r sin Gymraeg yn ’78

Fe ddatblygodd Sgrech i fod yn rhan ganolog o’r sin roc Gymraeg rhwng 1978-85 – yn cynhyrchu cylchgrawn, creu a gwerthu nwyddau pop, trefnu gigs a chynnal noson wobrwyo.

Ond fe ddechreuodd y cyfan ar raddfa llawer llai fel cylchgrawn bychan lleol.

Ganol yr 1970au, roedd Glyn Tomos wedi dychwelyd i’w bentref genedigol Dinorwig, yn Nyffryn Peris, ar ôl bod yn y brifysgol.

Dyma gyfnod cyffrous yn hanes cerddoriaeth Gymraeg – cyfnod artistiaid fel Geraint Jarman, Tecwyn Ifan a Brân, a blynyddoedd cyntaf o arbrofi yn stiwdio newydd cwmni Sain.

Ar ôl sylweddoli bod nifer yn yr ardal yn rhannu ei frwdfrydedd at gerddoriaeth Cymraeg fe ddechreuodd Glyn drefnu nosweithiau Disgo’r Ddraig yn Neiniolen.

Roedd cynnydd yn y nifer o fandiau lleol Cymraeg hefyd ac felly dyma ddechrau rhoi llwyfan iddyn nhw.

“Roedd gymaint o frwdfrydedd a cymaint o ddiddordeb nes i feddwl mae ‘na rywbeth yn fama ac yn hir neu’n hwyrach meddwl dyla ni gael cylchgrawn bop,” meddai Glyn.

“Roedd (y cylchgrawn bop) Asbri wedi dod i ben, ac roedd o’n cael ei gysidro yn gylchgrawn neis neis. Roedda ni eisiau newid y ddelwedd o bop Cymraeg – cylchgrawn mwy bywiog, mwy ryff a rhywbeth gwahanol.”


BBC News

Advertisements

See also  Eluned Morgan yn awgrymu 'prynu brechlyn ffliw fel anrheg Nadolig'

Check Also

House with no roof in Yr Wyddfa, Gwynedd up for sale for £17k

With property prices soaring in recent years, the idea of buying your own home for …

Welsh Secretary Stephen Kinnock claims Plaid Cymru ‘holding up investment’

Elsewhere in his speech, Kinnock said he was committed to reindustrialising communities and called for …

Nations League: Craig Bellamy ‘hurting’ as Wales outclassed by Denmark

Denmark dominated early on and saw Mikkel Damsgaard fire against the post shortly after Isaksen …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime