google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Cofio Mike Peters, The Alarm

831afc90 25a9 11f0 a4b5 cf8d960fb818.jpg

Advertisements

Ro’dd hi’n fraint llwyr i ddod i nabod e, rhyw ychydig, y noson hynny. Ac ar ddiwedd y nos, wrth ffarwelio, dyma Mike yn rhoi CD o oreuon y band yn fy llaw, cynnig cwtsh anferth, a mynd ar ei ffordd.

Oriau’n ddiweddarach weles i’r neges odd e wedi ysgrifennu ar du fewn i’r clawr. “To Gary, Thank you for this ‘moment in time’ (un o ganeuon y band), all the very best, Mike“. Dim Mike Peters chwel’, ond Mike; fel ‘se ni’n hen gyfeillion.

A dyna’r peth, ma’r diwrnode diwetha’ ma’ wedi teimlo fel colli ffrind… er ma’ ond oriau ges i yn ei gwmni. Ma’ CD’r goreuon yn chwarae ar hyn o bryd, a’r dagrau’n powlio, wrth ysgrifennu’r darn yma.

Beth allwch chi ‘weud am Mike Peters? Ro’dd e’n fardd, yn belen o egni, yn sylwebydd cymdeithasol cadarn, yn wariar, yn ysbrydoliaeth wrth frwydro yn erbyn yr afiechyd erchyll ‘na, tra’n helpu eraill gyda’i waith elusennol.

Ro’dd e’n eicon cerddorol, yn genedlaetholwr yn ystyr gorau’r gair, ac yn arwr. Ond ar ddiwedd y dydd, ro’dd e’n berson diymhongar ac annwyl. Welwn ni ddim o’i fath eto, ‘wy’n amau.

Nos da Mike, a diolch o galon am bopeth.


BBC News

See also  Swansea University: Student died in fall after cocktail of drugs

Check Also

Pidcock and Backstedt lead GB at Road Worlds

Great Britain’s best cycling talents including Tom Pidcock and Zoe Backstedt will lead the charge …

Matthew Rhys: Five things you may not know about Emmy history-maker

Rhys’ first language is Welsh and regularly speaks it at home in New York. The …

Ysgol Glanaethwy yn symud safle i ‘arafu’ a ‘thorri yn ôl ar niferoedd’

Bydd y busnes yn cael gwared ar ‘Ysgol’ o’r enw ond yn cadw ‘Glanaethwy’, ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime