google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cofio dau o arwyr tawel yr Eisteddfod Genedlaethol

Roedd cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Hywel Wyn Edwards yn adnabod y ddau yn dda.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd: “Mi’r oedd cyfraniad y ddau yn anhygoel dros gyfnod maith”.

“Roedd gan Edwin ddiddordeb mawr mewn gwyliau cenedlaethol a lleol achos o’dd llawer o’r rheiny yn cael eu cynnal yn yr hen bafiliwn yn Corwen fel Gŵyl Gorawl Cymru ac yr Ŵyl Gerdd Dant yn 1984, gan ddod yn reolwr llwyfan ar yr ŵyl honno o 1984 tan 2022 – cyfnod hir iawn – ac Eirian yn cynorthwyo.”

Bu’r ddau yn cynhyrchu sioeau yn Ysgol Maes Garmon, a chynhyrchu a llwyfannu sioeau yn y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd Yr Wyddgrug yn 1984.

Yn 1991, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Wyddgrug lle’r oedd Eirian yn is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, a dyma’r tro cyntaf i Edwin reoli’r llwyfan.

Fel yr eglura Hywel Wyn Edwards roedd hi’n “swydd a gyflawnodd o tan 2019 – cyfnod o 28 mlynedd”.

“Wedi i mi ddod yn drefnydd yn ’93 mi ddaeth Eirian i helpu yn y swyddfa gan fod ar y ddesg ymholiadau, rhannu beirniadaethau a derbyn cwynion wrth gwrs.

“Roedd hi’n berffaith ar gyfer y swydd honno oherwydd ei chefndir a’i synnwyr cyffredin ac roedd hi’n gymorth enfawr yma wrth i mi gyflawni’r swydd.

“Roeddech chi’n gallu dibynnu ar y ddau – er roedd yn rhaid cael y cynhaeaf gwair a diwrnod yn y Sioe Fawr cyn dod at yr Eisteddfod!”


Source link

Views: 0

See also  Mental health in rugby going in right direction, says Welsh player

Check Also

Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir – Uchel Lys

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad “yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio …

Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at …

Anthony Hopkins’ England shirt World Cup post divides fans

Sir Anthony Hopkins has prompted a flurry of divided reaction after sharing a photograph of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
: regular inspection for any damages or loose connections can prevent potential issues that might affect the battery life.