google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Codi’r isafbris uned am alcohol ‘i leihau nifer y marwolaethau’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: “Mae alcohol rhad, cryfder uchel yn effeithio’n anghymesur ar yfwyr peryglus a niweidiol.

“Mae’r dystiolaeth yn glir – mae’r isafbris uned yn gweithio.

“Rydym heddiw wedi gwneud penderfyniad a fydd yn achub bywydau ac yn helpu i amddiffyn llawer o bobl rhag y niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol.”

Croesawodd cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK, Andrew Misell, barhad y polisi, gan ddweud: “Mae chwyddiant wedi erydu’n raddol effaith yr isafbris uned ers iddo gael ei gyflwyno yn 2020.

“Mae’r cynnydd hwn yn adfer effeithiolrwydd y polisi ac yn sicrhau y gall barhau i wneud hi’n anoddach cael gafael ar yr alcohol rhataf a chryfaf sy’n achosi’r niwed mwyaf.”

Gwrthwynebodd y Ceidwadwyr Cymreig y polisi gan alw am “gyllid wedi’i dargedu” ar gyfer cynlluniau adsefydlu camddefnyddio alcohol.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: “Mae Llafur a Phlaid [Cymru] yn ymuno i wthio pris cwrw, seidr a gwin i fyny”.

“Nid yw isafbris uned ar gyfer alcohol wedi gweithio.

“Dim ond taro pobl yng Nghymru, sydd dan bwysau, nad oes ganddynt broblem yfed, yn eu pocedi y mae wedi’i wneud, ac mae wedi arwain at bobl sydd â phroblem gydag alcohol yn yfed diodydd cryfach ac yn mynd heb fwyd na gwres.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dileu’r isafbris uned ar gyfer alcohol, yn gostwng costau i ddefnyddwyr, ac yn buddsoddi mewn cymorth adsefydlu wedi’i dargedu at y rhai sy’n cael trafferth gyda chamddefnyddio alcohol yn lle hynny.”

Bydd y rheoliadau newid prisiau yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.


BBC News

Advertisements

See also  Beti a'i Phobol: Pum peth o sgwrs Kathy Gittins

Check Also

Staff amgueddfeydd Cymru’n wynebu ymddygiad ‘erchyll’ gan ‘bobl blin’

Roedd yr ASau yn cynnal eu sesiwn graffu flynyddol gyda phrif weithredwr Amgueddfa Cymru a …

Referee Ben Whitehouse joins Wales coaching team for Nations Championship

Referee Ben Whitehouse has joined the Wales coaching team ahead of the upcoming Nations Championship …

Lluniau: Gŵyl Sŵn 2026 – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime