google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Clwb Rygbi Abercraf yn dathlu 130 mlynedd

5f7eb400 3235 11f0 bbd7 d7ac0a5cd218.jpg

Advertisements

Yn 1923/24 codwyd pafiliwn ar lan ddwyreiniol afon Tawe a wasanaethodd y clwb yn dda am rai blynyddoedd.

Yn ystod y 1920au roedd gan Abercraf lai na thraean o’i phoblogaeth bresennol, ond eto roedden nhw’n gallu rhedeg pedwar tîm i chwarae bob dydd Sadwrn – Y Sêr, The Cherrys, Abercrave Seconds a’r tîm gwreiddiol, Y Gleision.

Daeth yr elyniaeth rhwng tîm Y Gleision a Sêr Abercraf i ben, chwaraeodd Clwb Rygbi Abercraf fel un, ac fe ailddechreuodd y chwarae ar gae Heol-Gwydde.

Roedd afon Tawe gerllaw cae Heol-Gwydde ac fe gollwyd llawer o beli rygbi i’r dyfroedd. Mae’n siŵr bod sawl pêl hirgron wedi eu pysgota gan glybiau cyfagos ymhellach i lawr yr afon!

Roedd un stori ddoniol am beli coll yn ymwneud â gêm gyda Chwmllynfell. Mae’n debyg bod y bedwaredd bêl a’r olaf wedi gwneud ei ffordd i lawr yr afon i gyfeiriad Bae Abertawe.

Heb beli ar ôl galwodd capten y dydd Matthew Pedric y ddau dîm at ei gilydd a datrys y broblem gyda’r geiriau – “Bois, peidiwch â becso am y bêl, dewch i whare ‘mlan heb un!”


BBC News

Views: 0

See also  Cardiff Catholic priest Mark Rowles sentenced for sending racist neo-Nazi messages

Check Also

Metal detectorist finds WW2 soldier's silver cigarette case hundreds of miles from where he died

Stan Drew’s cigarette case turns up in a Netherlands field, about 370 miles from where …

Ben Davies: Wales defender should have Tottenham Hotspur future – Gary Mabbutt

Former captain Gary Mabbutt hopes Ben Davies will have a future at Tottenham Hotspur after …

Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028

Mae’r Urdd a Chyngor Gwynedd wedi cyhoeddi mai Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.