google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Clefyd prin yn effeithio ar ‘glwstwr’ o bobl ifanc yn ne Cymru

Advertisements

Fe wnaeth Zoe Hoes fabwysiadu ei merch Gabriella, sydd nawr yn wyth oed, pan roedd hi’n fabi.

Cysylltodd y gwasanaethau cymdeithasol â Ms Hoes y llynedd gan ddweud fod aelod o deulu genedigol Gabriella wedi profi’n bositif am DRPLA.

“Roeddwn i’n meddwl bod ganddi [Gabriella] symptomau gan ei bod hi’n ysgwyd yn y nos,” meddai Ms Hoes, 47 o Gwmbrân.

“‘Nes i lwyddo cael prawf yn breifat ac fe gadarnhaodd hwnna bod ganddi’r cyflwr.”

Dywedodd ei bod wedi gorfod “straffaglu er mwyn dod o hyd i wybodaeth” am y cyflwr.

“Mae’n ofnadwy oherwydd ar hyn o bryd does dim triniaeth na modd gwella. Chi’n eu caru gymaint a dydych chi ddim eisiau eu colli.”

Dywedodd Ms Hoes fod y prawf yn breifat wedi costio tua £2,000 iddi, ac mae’n cydnabod nad pawb sy’n gallu fforddio hynny.

Fe hoffai Ms Hoes weld mwy o bobl yn cael eu profi am y cyflwr yn iau.

“Mae angen i [rieni] allu cynllunio ar gyfer dyfodol y plant oherwydd, yn y pendraw, nhw fydd yn gofalu amdanyn nhw,” meddai.


BBC News

Views: 2

See also  Sefydliad y Merched yn dathlu 110 mlynedd

Check Also

Brecon man fined for dragging pony tied to a vehicle

Nic de Brauwere, the veterinary expert witness in the case, provided a statement to court, …

Dedfryd arall o garchar i gyn-arweinydd am gam-drin plant yng Ngwynedd

Mae cyn-arweinydd y Cadetiaid Môr wedi cael dedfryd o 15 mlynedd yn y carchar am …

Pryd fydd y polisi i ymestyn gofal plant am ddim yn dechrau?

Dywedodd David Phillips o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ddydd Mercher fod llywodraeth newydd Plaid Cymru yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Hcmfx platinum elliot wave forcasting service.