google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwilio am fachgen ‘bregus’ 16 oed sydd ar goll yn Llandudno

1746981236 9806d430 2e6e 11f0 8f57 b7237f6a66e6.png

Advertisements

Mae’r gwasanaethau brys yn chwilio am fachgen 16 oed gafodd ei weld diwethaf ar draeth yn Llandudno.

Cafodd yr heddlu eu galw am 14:00 brynhawn Sadwrn yn sgil pryderon fod Athrun ar goll.

Dywedodd swyddogion fod y bachgen – sy’n cael ei ddisgrifio fel “unigolyn bregus” – wedi ei weld wrth ymyl y parc chwarae a’r llyn hwylio ger traeth Pen Morfa.

Mae ganddo wallt byr, tywyll, yn tua chwe throedfedd o ran taldra ac roedd yn gwisgo siorts nofio gwyn gyda phatrwm arnynt.

Mae swyddogion arbenigol Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn arwain ymgyrch chwilio yn y môr ac ar y tir – gyda chymorth gan Wylwyr y Glannau ac asiantaethau eraill.

Dywedodd yr heddlu fod yr achos yn cael ei drin fel “ymchwiliad person coll risg uchel”, ac maen nhw’n galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ond i beidio rhoi eu hunain mewn peryg.


BBC News

Views: 0

See also  Cyngor Gwynedd yn wynebu 'straen sylweddol' oherwydd tirlithriadau

Check Also

European Rowing Championships: GB’s Lauren Henry and Benjamin Pritchard win golds

Great Britain claimed gold medals with Lauren Henry in the women’s single sculls and Benjamin …

WSL2: Wales midfielder Sophie Ingle signs new Bristol City contract

Bristol City boss Charlotte Healy has described Sophie Ingle as “the perfect role model” after …

O gestyll i bentref Oes Haearn: Lle i ymweld yn ardal y ‘Steddfod?

“Yn Eglwys Sant Brynach Nanhyfer, mae yno gasgliad o bethau difyr i’w gweld, gan gynnwys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Use the salehoo directory to find trustworthy, low cost suppliers who stock your chosen product.