google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chwe Gwlad: ‘Rhaid cynnig y gemau yn y Gymraeg yn llawn’ – ASau

Rhaid cynnig gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad “yn y Gymraeg yn llawn” mewn darllediadau teledu am ddim, meddai adroddiad gan bwyllgor diwylliant a chwaraeon Senedd Cymru.

“Mae darlledu’n Gymraeg yn hanfodol, nid yn unig o ran cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg, ond hefyd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd wrth inni weithio tuag at darged Cymraeg 2050,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell.

Dylid symud Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i restr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi’u diogelu ar gyfer darlledu ar wasanaethau am ddim, meddai’r ASau.

Mae’r pwyllgor am i’r bencampwriaeth gael ei symud i Grŵp A o ddigwyddiadau mawr sy’n cael eu cynnig i sianeli daearol.

Byddai hyn yn golygu y byddai’r Chwe Gwlad yn ymuno â’r Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd, rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd, rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA a rowndiau terfynol Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop (rowndiau terfynol y dynion a’r menywod).

Mae Grŵp A hefyd yn cynnwys digwyddiadau megis rowndiau terfynol tenis Wimbledon a’r Derby.

Ar hyn o bryd mae’r Chwe Gwlad yng Ngrŵp B, sy’n golygu bod modd darlledu gemau byw ar wasanaethau tanysgrifio ar yr amod fod uchafbwyntiau’n cael eu cynnig i sianeli am ddim.

Mae digwyddiadau Grŵp B hefyd yn cynnwys pob gêm arall yng Nghwpan Rygbi’r Byd, a Gemau’r Gymanwlad.

Ond dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wrth y pwyllgor y byddai newid o’r fath yn cael effaith niweidiol ar rygbi Cymru.


Source link

Views: 0

See also  Villagers 'cut off' from north Wales beauty spot

Check Also

Estate attracted Rihanna and Justin Bieber – but area's Grade II-listed gem was forgotten

Radio 1’s Big Weekend, the National Eisteddfod and Faenol Festival have all been held on …

Woman serious injured in alleged hit and run

A woman suffers life-changing injuries after being hit by a car in an alleged hit …

Talu am bigiadau colli pwysau yn breifat yn sgil rhestrau aros hir

Ar ôl cael diagnosis yn 25 oed, roedd Hannah o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Promo menarik pion777, menang berapapun pasti di bayar.