google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chappell Roan a’r Eisteddfod yn ysbrydoli pop cwiyr Cymraeg

Bydd Rosie Reed, sy’n perfformio dan yr enw Local Rainbow yn rhyddhau ei chân Gymraeg gyntaf ddydd Gwener.

Fe drodd y gantores sydd o’r Porth, y Rhondda, yn ôl at y Gymraeg ar ôl i’r Eisteddfod ymweld â Phontypridd y llynedd. Cyn hynny, dim ond yng nghorau’r ysgol yr oedd cerddoriaeth a’r Gymraeg wedi gorgyffwrdd iddi.

Ar faes yr Eisteddfod y gwelodd Rosie yr hysbysebion ar gyfer Y Llais ar S4C, ac ar ôl gweld nifer o artistiaid yn canu’n Gymraeg yn ystod yr wythnos fe benderfynodd drio’i lwc yn y gystadleuaeth.

“Roedd [mynd ar Y Llais] yn anhygoel. Roedd e’n step mawr cyntaf i fi fynd ar y teledu a canu’n Gymraeg.”

Fe ganodd y gân Good Luck, Babe gan Chappell Roan a oedd wedi’i chyfieithu ar gyfer y rhaglen. Mae Chappell Roan wedi dod yn eicon cwiyr ym myd cerddoriaeth brif-ffrwd yn sydyn iawn.

“‘Nes i ‘neud Good Luck, Babe oherwydd dwi’n queer hefyd, so mae’n rhywbeth sy’n bwysig i fi, a dwi’n jyst caru Chappell Roan – mae hi mor cŵl.

“Do’n i ddim wedi mynd trwy [ar y Llais], ond roedd pobol ar TikTok yn caru [y perfformiad] – a mae e wedi cael fel 70k views nawr, sydd yn anghygoel!

“Mae’n rili cŵl o’n i’n gallu ‘neud hwnna a rhoi platform i bobl sydd yn queer.”


BBC News

Advertisements

See also  Jak Alnwick: Hamstring injury rules out Cardiff keeper for season

Check Also

Family pay tribute to Holyhead father as son charged with murder

Tributes have been paid to a “loving father with a big heart” who was found …

Former boxing world champion Joe Cordina cleared of assault after punching man

Former boxing world champion Joe Cordina has been cleared of assaulting a man he punched …

Efa Gruffudd Jones yn ymddiswyddo o’i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg

Mae Efa Gruffudd Jones yn ymddiswyddo o’i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg am “resymau personol” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime