google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ceredigion: Pryder am ddyfodol rhai ysgolion cynradd

Mae Ysgol Rhos Helyg yn gynnyrch proses ffederaleiddio a ddigwyddodd yn 2014 er mwyn gwasanaethu’r ardal o amgylch Bronant a Llangeitho.

“Ymysg cryfderau ein hysgol ni, yn ôl adroddiad diweddaraf Estyn, mae safon uchel yr addysgu, amrywiaeth y cyfleoedd i ddysgwyr, a naws gartrefol a Chymreig yr ysgol,” medd Cathryn Charnell-White, y rhiant-lywodraethwr cyfredol

“Felly, rwy’n ymfalchïo yn llwyddiant ein hysgol ni fel ysgol ffederal ac fel ysgol gymunedol: nid yn unig y mae ein plant yn cael eu haddysgu yn eu cymuned eu hunain, ond mae’r ysgol hefyd, drwy ystod eang o weithgareddau drwy’r flwyddyn, yn cyfrannu’n aruthrol at hyfywedd a Chymreictod y gymuned ehangach.

“O safbwynt llesiant cenedlaethau’r dyfodol, felly, mae ysgolion cymunedol fel ein hysgol ni yn cynnig gwerth di-ail am arian!”

“Mae’n anodd meddwl bod yna fygythiad i ni eto,” medd y cynghorydd lleol Dafydd Morse.

“Wrth golli’r ysgol chi’n colli brwdfrydedd a rhieni ifanc.

“Pan mae ysgol yn cau mae’n fygythiad hefyd i fusnesau lleol.

“Mae dywediad gan grŵp gweithredu Rhos Helyg sef bod ‘cymuned heb ysgol fel gardd heb flodau, heb ei chalon fywiog a thwf yn ei dyfodol’.

“Ni’n teimlo’n gryf am y bygythiad ac yn ei wrthwynebu.”


Source link

Advertisements

See also  Wrexham: Sacked blind baker treated unfavourably - tribunal

Check Also

Cardiff City: Barry-Murphy praises resolve in Boro draw

Cardiff remain in the bottom half of the table after the draw and, after 11 …

Clayface’s Tom Rhys Harries says prosthetics helped performance

Actors are often said to be the face of the film, but in Tom Rhys …

Black Lion 14-39 Ospreys: Welsh side ease to Challenge Cup win in Georgia

Black Lions: Tsirekidze; A Tabutsadze, L Tabatadze, Akhvlediani, R Makhatadze; Babunashvili, Spenderashvili; Abdushelishvili, Kvatadze, Khatiashvili, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime