google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ceredigion: Angen i 2,000 wneud cais o’r newydd am dŷ cymdeithasol

Advertisements

Dywedodd Cyngor Ceredigion nad oedden nhw wedi adolygu’r system ers 2019, a bod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers hynny o ystyried yr argyfwng costau byw a ffocws Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd.

Mae hynny wedi golygu fod mwy o bobl wedi ymuno â’r gofrestr, tra bod y galw am wasanaethau digartrefedd hefyd wedi cynyddu.

Mae’r cyngor yn dweud y byddai’r gofrestr ar gau i geisiadau newydd tan ddechrau Gorffennaf, ond os oes rhywun yn ddigartref ac angen ymyrraeth frys, yna byddai cefnogaeth ar gael.

Yn ôl llefarydd, mae pawb oedd ar y gofrestr wedi cael gwybod bod angen iddyn nhw wneud cais o’r newydd, ac y gallai hynny newid eu safle ar y rhestr aros.

“Hoffwn gadarnhau, os yw pobl yn ail-geisio am le ar y gofrestr erbyn 31 Ionawr 2026 – fe fyddwn yn cydnabod dyddiad y cais gwreiddiol, ac ni fydd angen ail-gyflwyno tystiolaeth megis tystysgrifau meddygol,” meddai’r llefarydd.

Ychwanegodd y byddai staff hefyd ar gael i gefnogi pobl.


BBC News

Views: 0

See also  Six Nations 2026: Scotland name XV to face Wales

Check Also

Dan Thomas: 'Byddwn i'n ystyried rhodd gan droseddwr pe bai angen diogelwch'

Dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru y byddai’n ystyried derbyn rhodd gan droseddwr pe bai …

Boy ‘brought back to life’ by rescuers at Bryngarw Country Park

A father-of-two rescued a toddler from drowning before two nurses brought the boy back to …

Dod â dawns i gartrefi gofal yng Nghymru

Dywedodd Siri, sy’n wreiddiol o Norwy ond rŵan yn byw yng Ngwynedd, bod un ddynes …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
कार्यक्रम का शुभारंभ सीमांत मुख्यालय, एसएसबी लखनऊ के उप महानिरीक्षक (चिकित्सा) डॉ.