google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cerddwr mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan gar ym Môn

Mae cerddwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Stoke wedi iddo gael ei daro gan gar ar gyrion Llangefni ar Ynys Môn yn ystod oriau mân bore Sul.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng y cerddwr a char Ford Fusion ar y B4422 yn Rhostrehwfa tua 01:15.

Dywedodd y llu fod y cerddwr wedi cael ei gludo “i ysbyty yng ngogledd Cymru cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Stoke mewn ambiwlans awyr ar ôl cael anafiadau difrifol”.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw, neu unrhyw ddeunydd fideo allai fod o ddefnydd i’r ymchwiliad.

Dywedodd y Sarjant Daniel Rees o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Hoffem siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y B4422 yn Rhostrehwfa o gwmpas yr amser hwn ac a allai fod wedi gweld cerddwr neu sydd â lluniau camera cerbyd.

“Ry’n ni hefyd yn annog unrhyw drigolion lleol a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng i gysylltu â ni.”


Source link

Views: 1

See also  CNC yn cyhoeddi hysbysiad pellach i safle tirlenwi dros arogl

Check Also

The Hundred 2025 results: Joe Root guides Welsh Fire to victory over Birmingham Phoenix

The Hundred men’s competition, Edgbaston Birmingham Phoenix 137-9 (100 balls): Clarke 35 (23); Ferguson 2-20, …

Lluniau: Dydd Sadwrn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

Wedi’r holl baratoi, codi arian a gwaith caled, roedd yr haul yn gwenu ar ddiwrnod …

Commonwealth Games 2026: Anna Morris and Jess Roberts claim gold and silver for Wales

Anna Morris and Jess Roberts secured a one-two for Wales in the women’s 25km points …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Warm up : 5 10 minutes of light cardio. Ignou admission last date extended for july 2024 session.