google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cefnogaeth i’r ddrama ddadleuol am Huw Edwards

Advertisements

Cyhoeddodd Huw Edwards ddatganiad ecsgliwsif i’r Daily Mail ddydd Llun yn honni nad oedd unrhyw ymgais gan y cwmni cynhyrchu i wirio ffeithiau gydag ef cyn creu’r ddrama, dim ond gofyn am ymateb ar ôl iddi gael ei chwblhau.

Dywedodd Huw Edwards ei fod yn ymddiheuro’n ddiffuant am ei droseddau a bod y ddrama gan Channel 5 yn ymdrin â honiadau gwahanol.

Honnodd Edwards fod y llanc wedi newid ei stori, a’i bod yn annhebygol y byddai’r ddrama yn cyfleu realiti’r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Edwards bod “cyflwr ei iechyd yn fregus” a’i fod wedi “dioddef problemau iechyd meddwl am 25 mlynedd”.

Mae Newyddion S4C hefyd wedi ceisio cysylltu â Huw Edwards.

Yn ôl yr Athro Jamie Medhurst o Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, does dim “llawer i’w ennill” o greu drama am yr hyn sydd wedi digwydd.

“Dwi’n gofyn y cwestiwn beth sydd i’w ennill? Ni’n gwybod yr hanes a beth sydd wedi digwydd.

“Yn sicr mae yna bobl sydd wedi dioddef. Mae e wedi bod drwy’r llysoedd ac yn y blaen. Dwi ddim yn gweld, yn bersonol, bod llawer iawn i’w ennill o greu drama.”

Mae’n cyfaddef, serch hynny, “bod yna ddiddordeb mawr” yn y ddrama.

“Mae yn y natur ddynol i eisiau gwylio straeon ynglŷn â phobl sydd yn amlwg, a mewn grym.

Power yw teitl y ddrama. Mae yna rywbeth sydd yn gyrru ni i wylio pethau fel hyn.”


BBC News

Views: 1

See also  Gweddw yn ymgyrchu dros ‘Gyfraith Owain’ i driniaethau tiwmor

Check Also

Gwraig a gollodd ei gŵr i Covid yn benderfynol o gael swydd fel nyrs

Fe wnaeth Rachel ac Eric gyfarfod mewn bar yn 2003, a dywedodd Rachel eu bod …

Adam yn yr Ardd yn ffarwelio â’r lle wnaeth ‘newid fy mywyd’

Wrth edrych ymlaen at ei ardd newydd, dywedodd ei fod am “ruthro dim”. “Mae’r ardd …

Fraudster takes £11k from pensioner and angry scenes outside court

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
About us | leading seo & ppc company in phoenix, az. Best website development agency for startups in india. camper vans caravan sales.