google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cau safle ailgylchu ym Môn ar ôl canfod bom mortar posib

Cafodd canolfan ailgylchu ar Ynys Môn ei chau i’r cyhoedd ddydd Llun wedi i fom mortar posib gael ei ganfod ar y safle.

Wedi cyngor gan yr heddlu fe wnaeth y cyngor sir gau Canolfan Ailgylchu Penhesgyn ger Porthaethwy er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, medd llefarydd.

Fe gafodd y darganfyddiad ei symud i “fan diogel o fewn y safle”, cyn i Uned Gwaredu Bomiau Heddlu Gogledd Cymru ffrwydro’r ddyfais yn ddiogel.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn y bydd y ganolfan ailgylchu yn ailagor fore Mawrth.

Roedd y cyngor wedi pwysleisio nad oedd unrhyw fygythiad uniongyrchol i’r cyhoedd.


BBC News

Advertisements

See also  'Trawma digartrefedd yn helpu fi i rannu fy stori'

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime