google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cau ffordd pentref Penmachno yn ‘gur pen’ i bobl leol

Yn ôl Mr Tomos, cafodd y cyngor wybod am y penderfyniad i gau’r ffordd “allan o nunlle”.

“Roedd yn ychydig o sioc i ni fel cyngor cymuned achos gethon ni gyfarfod gyda’r cwmni ar y dydd Mercher wedyn dewis i gau’r ffordd ar y dydd Iau.”

Ond dywedodd mai dyma oedd yr “unig opsiwn”.

“Wel ar ddydd Gwener mae’r pensiynwyr yn cael eu cinio Dolig nhw felly bydde hynny ddim wedi gallu digwydd pe bai’r ffordd ar gau yr wythnos yma.

“Rydyn ni’n gymuned glos iawn ac yn gofalu am ein gilydd a do’n ni ddim am weld y cinio ddim yn digwydd.

“Fel cyngor cymuned ‘dan ni’n dallt y rhwystredigaeth ond dyma yw’r unig opsiwn.”

Roedd gan drigolion lleol gyfle i glywed mwy am y prosiect mewn cyfarfod nos Iau.

Daeth cadarnhad y byddai’r gwaith yn dechrau ar 22 Chwefror y flwyddyn nesaf, gyda rhannau gwahanol o’r ffordd yn cau am 10 diwrnod ar y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran SP Energy Network: ” Ry’ ni’n gwneud gwaith sylweddol i wella dygnwch eu rhwydwaith a sicrhau bod cyflenwadau cwsmeriaid yn gyson a dibynadwy.

“Rydyn ni’n ymddiheuro am yr anghyfleustra gafodd ei achosi wrth i ni gyflwyno’r gwelliannau hanfodol yma, ac rydyn ni wastad yn ceisio lleihau’r effaith ar gwsmeriaid.

“Hoffem ddiolch i bob am eu hamynedd.”


Source link

Views: 1

See also  Yws Gwynedd: Angen i'r llywodraeth dalu incwm i gerddorion Cymru

Check Also

South Africa v Wales: Touring captain Dewi Lake named for Nations Championship match

Dragons hooker Elliot Dee had been flown out as cover for Lake, who Wales say …

Mair Wynn Hughes: Dathlu cyfraniad oes i lenyddiaeth Gymraeg

Yn ôl Mair, hap a damwain oedd iddi ddechrau ysgrifennu llyfrau o gwbl, meddai: “O’n …

Tom Allen: Scarlets sign New Zealand U20 lock from Hurricanes

Allen is the seventh summer signing for Scarlets who have also recruited New Zealand back-rower …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime