google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Casnewydd: Ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl canfod dyn yn farw

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 36 oed yng Nghasnewydd.

Fe gafodd Heddlu Gwent eu galw i Heol Cas-gwent, Casnewydd, tua 18:00 ddydd Mawrth, 14 Mai, ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn ddiymateb gydag anafiadau difrifol.

Roedd yr heddlu ynghyd â pharafeddygon o’r gwasanaeth ambiwlans ar y safle. Fe wnaethon nhw gadarnhau fod y dyn 36 oed wedi marw.

Mae ei berthnasau agos wedi cael gwybod am y sefyllfa ac yn cael gofal gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y prif arolygydd Virginia Davies: “Hoffwn roi gwybod i gymuned Casnewydd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sefydlu’r amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth..

Fe ychwanegodd bod “swyddogion yn parhau â’r gwaith yn yr ardal”.

Maen nhw’n apelio am unrhyw wybodaeth yn ardal Merriott Place, Casnewydd ar brynhawn y digwyddiad.


Source link

Views: 1

See also  Joe Ralls: Captain confident as Cardiff City face Watford and Swansea City

Check Also

Neco Williams: Wales defender ready to put feet up after marathon season

Williams was a key player for Forest last term, playing in 53 games as they …

Paralympic champion backs plans to fine airlines which fail disabled travellers

The Paralympic champion said an airline staff member once asked her if she had “ever …

Ancient cathedral in Britain's smallest city could go bust

St Davids Cathedral needs urgent financial planning to avoid insolvency within two years. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
A simple, neat ad bar featuring a few text ads appears at the bottom of every website within the network.