google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caredigrwydd dieithryn yn gwthio merch o Fôn i gwblhau marathon Llundain

E39dd800 271e 11f0 b48e e7f5549f02c4.jpg

Dywedodd i’r dyn ei helpu i ddyfalbarhau yn ystod ail hanner y marathon.

“Nath o just torri pob dim lawr i fi, nath o’m gadael eiliad i fi stopio,” meddai Erin.

“O’dd o’n hollol lyfli, nath o stopio yn y siop i nol bwyd a diod i fi.”

Ond, dywedodd iddi golli golwg arno ar ol tua 21 milltir o’r ras, ac felly fe wnaeth hi golli’r cyfle i ddiolch iddo.

Yn dilyn y ras, fe benderfynodd rannu neges ar Facebook er mwyn ceisio cael gafael arno.

“O fewn awr roedd yna 1,000 o responses a rhywun wedi ffeindio fo a nathon ni lwyddo i gysylltu,” esboniodd.

Gyda’r neges wedi cael cymaint o ymatebion, fel ffordd o ddiolch iddo fe wnaeth Erin rannu dolen codi arian y dyn yng nghanol y sylwadau ac mae bellach wedi codi £6,000.

“Mae mor surreal fod pob dim wedi chwythu fyny, do’n ni ddim yn meddwl byse neb yn gweld a just gobeithio byse’r elusen yn ei weld.”


BBC News

Advertisements

See also  Colled i Gymru yn erbyn Canada mewn gêm gyfeillgar

Check Also

We bought a one-way ticket to travel the world with our children

After selling their house at the start of the year, they lived in rented accommodation …

Dragons 31-38 Ospreys: Visitor secure first URC win of season in Welsh derby thriller

Dragons: Anderson; Dyer, Paea, Owen, Tuitavuki; de Beer, Hope; Martinez, Dee, Hunt, S Davies, Carter …

Wales must improve after Women’s World Cup play-off win in Albania – Rhian Wilkinson

Rhian Wilkinson accepted Wales must raise their standards after they scraped to a 1-0 victory …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime