google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu tad a mam ‘o uffern’ am esgeuluso eu merch fu farw

Advertisements

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Steffie Davies yn ferch oedd yn caru anifeiliaid, ond roedd yn dioddef o orbryder, ac anaml oedd hi’n gadael y tŷ.

Dros y blynyddoedd, roedd hi’n ferch iach, heb fawr o broblemau meddygol.

Pan gafodd hi ei darganfod yn farw yn ei chartref, clywodd y llys ei bod “fel sgerbwd” gyda briwiau ar ei chorff.

Roedd hi hefyd mewn cyflwr lle na fyddai modd iddi fwyta nac yfed heb gymorth.

Clywodd y llys fod parafeddygon wedi ei darganfod mewn cyflwr ofnadwy.

Roedd ganddi wallt budr a heintiau ar ei chorff, gydag un briw yn 8cm mewn dyfnder.

Roedd y gwely y cafwyd hyd iddi ynddo yn wlyb.

Dywedodd un parafeddyg nad oedden nhw erioed wedi gweld claf mor ifanc mewn cyflwr mor wael.

Ychwanegodd y barnwr Mrs Ustus Mary Stacey fod y lluniau o Steffie yn “rhy ofidus” i’w dangos yn y llys.

“Ni fydd y rhai ohonom sydd wedi’u gweld byth yn gallu eu hanghofio,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Llofruddiaeth Caerdydd: Chwilio am ddau ddyn sydd ar ffo

Check Also

Cynnal sioe Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig wedi’r cwbl

Ychydig ddyddiau ers canslo sioe i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS) …

South Wales Police Police officers recognised for tackling chainsaw wielding man

Three police officers have been recognised for their bravery after responding to an incident involving …

Bonnie Tyler superfan asked for an autograph then spent Christmas at her Mumbles home

Marshall said that, while he was studying at the Royal Welsh College of Music in …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Hot sales chinese bubble house transparent do tent for restaurant hotel.