google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Carcharu perchennog cwmni wedi marwolaethau padlfyrddio Sir Benfro

C7286270 203a 11f0 8c2e 77498b1ce297.png

Advertisements

Fis diwethaf fe blediodd Lloyd yn euog i bedwar cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ac un drosedd o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Ddydd Mawrth yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth teuluoedd y dioddefwyr feirniadu Lloyd yn hallt wrth ddarllen eu datganiadau personol.

Disgrifiodd gŵr Andrea Powell yr hyfforddwraig fel person “twyllodrus”, “anghymwys” a “ddim yn ffit i gael bywyd fy ngwraig yn ei dwylo”.

Wrth grynhoi ddydd Mercher fe wnaeth y barnwr, Mrs Ustus Mary Stacey, gydnabod na fydd “dim byd y gallaf ei ddweud na’i wneud” yn ddigon i deulu a ffrindiau y rhai y “torrwyd eu bywyd” mor drasig.

Fe wnaeth y rhai a oedd yn rhan o’r daith, llawer ohonynt yn ffrindiau i Lloyd, “ymddiried ynoch”, meddai.

“Doedd pedwar o’r rhai oedd ar y daith ddim yn gwisgo siwtiau gwlyb (wetsuits) ac roedd un wedi penderfynu na fyddai angen siaced achub.”

Ychwanegodd na fu “unrhyw sesiwn friffio diogelwch” ymlaen llaw, doedd gan yr un ohonynt y math cywir o dennyn ar gyfer eu byrddau mewn amodau o’r fath ac nid oedd gan Lloyd unrhyw fanylion perthnasau agosaf.


BBC News

See also  The Range exclusion zone introduced to protect wildlife

Check Also

First Minister Rhun ap Iorwerth wants swift Welsh Gender Service review

A review into surgery services at Wales’ only transgender clinic must be quick, First Minister …

Woman died of heatstroke climbing Yr Wyddfa, inquest hears

A 35-year-old woman died of heatstroke on Wales’ highest mountain, an inquest has heard. Sophie …

Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu’r Gogledd wedi bod yn adolygu’r achos ers 2024. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime