google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu hyfforddwr ceffylau am ymosod ar ddyn gyda ffon hoci

Roedd Connor Ring, joci a phartner merch Mr Williams hefyd yn bresennol, ac fe geisiodd symud Mr Williams i ffwrdd.

Cafodd Mr Dandridge ei gludo i’r ysbyty lle ddangosodd archwiliad pelydr-X ei fod wedi torri asgwrn yn ei fraich, a chafodd ei roi mewn cast.

Cafodd Evan Williams ei arestio ar 5 Rhagfyr 2024, ac mewn cyfweliad gyda’r heddlu fe wadodd ymosod ar Martin Dandridge gyda ffon hoci, gan ddweud bod yr anafiadau a gafodd wedi deillio o gael ei dynnu gan ei gi i ffos.

Dywedodd David Elias KC, ar ran Williams, y byddai dedfryd o garchar yn cael effaith ar ei deulu, busnes, staff a pherchnogion y ceffylau maen eu hyfforddi.

Dywedodd bod neb arall i gymryd yr awenau gyda’i fusnes, a alwodd yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal.

Clywodd y gwrandawiad hefyd am broblemau iechyd meddwl Williams ar ôl digwyddiad chwe wythnos cyn noson y drosedd, pan gafodd ei fygwth gan botswyr ar ei dir gyda gwn.

Fe wnaeth y barnwr Angharad Price dderbyn “ofn a gwyliadwraeth ychwanegol” y diffynnydd yn dilyn y digwyddiad cyntaf, ond dywedodd bod yr ymosodiad ar Mr Dandridge yn “ofnadwy”.

“Roedd gennych chi ddewis y noson honno, drwy aros i’r heddlu ddelio gyda’r sefyllfa, ond fe wnaethoch chi ruthro i’r padog i ddelio gyda’r peth eich hun.”

Cafodd ddedfryd o dair blynedd o garchar.


BBC News

Advertisements

See also  Cymru'n sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Ghana yng Nghaerdydd

Check Also

Ji-sung Eom racist abuse: Millwall boss Alex Neil criticised for stoppage comments

When he was alerted to the accusations, referee Edward Duckworth had lengthy discussions with both …

Cancer death exposes eye care follow-up failures, coroner warns

A 70-year-old man died of eye cancer after a recommended appointment was not followed up …

Reu! Llechi wedi eu naddu ym Mhen-y-groes i ddathlu cyfraniad Dyfrig Evans

Meddai Llio: “Mae’n gyfle da i atgoffa pobl o’r cyfoeth o bobl sy’n byw yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime