google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu dyn am yrru JCB dros gerbydau ac i mewn i dafarn

Advertisements

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig ar ôl 20:45 ar 4 Rhagfyr, ar ôl i Daniel Morgan yrru i mewn i’r dafarn ddwywaith, gan achosi difrod helaeth.

Roedd wedi bod yn yfed yn y New Inn, cyn iddo adael yn bygwth ymosod ar y dafarn gyda cherbyd JCB.

Yn hwyrach yn y dydd, aeth i fferm a dwyn y cerbyd trwy ei yrru trwy’r sied lle’r oedd yn cael ei gadw.

Parhaodd i yrru’r JCB ar y ffordd fawr, gan wthio cerbydau cyn cyrraedd y dafarn.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi ceisio rhwystro Morgan gyda threlar a thryc ar draws ei lwybr, ond gyrrodd yn syth drostynt, gan achosi difrod.

Fe wnaeth aelodau o’i deulu hefyd geisio ei rwystro gyda chloddiwr, a thrwy ddefnyddio’r bwced fe lwyddon nhw i’w stopio yn y diwedd.

Cafodd ei arestio yng nghaban y cerbyd.

Clywodd y llys ei fod yn delio gyda phroblemau personol ar y pryd, gan gynnwys camddefnyddio cocên ac alcohol.


BBC News

See also  Cardiff: Public let in to watch hospital surgeries

Check Also

Carcharu dyn am achosi anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad 140mya

Clywodd y llys fod Max Oliver Ianto Dangerfield, oedd yn 18 oed ar y pryd, …

County Championship: Glamorgan sign New Zealander Ray Toole

Glamorgan have signed New Zealander Ray Toole for the final six matches of their Championship …

Labour wants budget deal with Plaid Cymru government – Ken Skates

Speaking to BBC Wales, Skates said it was “for the government to bring forward a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime