google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu dyn am 14 mlynedd wedi ymosodiad ‘ffiaidd’ ym Mhorthcawl

Fe aeth mam Mr Bradley i’w weld yn ei gartref deuddydd wedi’r ymosodiad. Roedd ei drwyn yn gwaedu, ei frest a’i ochr wedi cleisio ac roedd yn gorwedd yn y gwely gyda bagiau o rew o’i gwmpas.

Cafodd ei gludo i’r adran frys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac wedi archwiliadau meddygol daeth i’r amlwg ei fod wedi torri asen.

Cafodd Mr Bradley ei ryddhau o’r ysbyty, ond yn y dyddiau wedi hynny roedd yn teimlo’n rhy wael i dreulio amser gyda’i blant, a doedd ddim yn gallu codi o’i wely.

O ganlyniad, cafodd ei gludo i’r ysbyty unwaith eto ar 15 Medi, lle cafodd ataliad ar y galon a chafodd diagnosis o sepsis difrifol.

Dywedodd ei fam, Barbara Rees: “Doedd gen i ddim syniad pa mor wael oedd e tan fod y doctor wedi dweud eu bod wedi rhoi cymorth cyntaf iddo am 20-30 munud.

“Fe wnaethon nhw lwyddo i’w adfywio, ond fe esboniodd y doctor ei fod yn wael iawn ac y gallen ni ei golli,” meddai.

Roedd Mr Bradley wedi dioddef anaf difrifol i’w ben gafodd ei achosi gan ddiffyg ocsigen i’r ymennydd, a bu farw yn yr uned gofal dwys ar 23 Medi.


Source link

Views: 2

See also  Abergwili's Bishop's Park gets £1.2m to restore walled garden

Check Also

Taulupe Faletau: Wales and Lions back row signs new Cardiff deal

Taulupe Faletau has signed a new one-year contract with Cardiff to remain at the Arms …

Glamorgan beat League Two rivals Middlesex to reach T20 Final

The performance was a return to form for Glamorgan, who had edged a last-ball win …

Wales hockey: Men’s team raising funds to go to World Cup

Hockey Wales chief executive officer Paul Whapham said the overall costs to prepare for the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
revolutionizing connectivity : how 5g is changing our world.