google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Canslo sioe Llannerch-y-medd yn sgil pryder am ffliw ceffylau

Yn ôl Tîm Gwyliadwriaeth Clefydau Heintus Ceffylau mae 101 o achosion o’r haint wedi eu cofnodi ar draws y Deyrnas Unedig.

O rheiny mi oedd 17 yng Nghymru mewn wyth awdurdod lleol – Caerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Caerdydd, Penfro, Mynwy, Rhondda Cynnon Taf, a Phen-y bont.

Mae’r tîm yn annog perchnogion i fod ar eu gwyliadwriaeth gan ddweud fod y niferoedd o achosion siŵr o fod yn uwch na’r hyn sydd cael eu cofnodi.

Ategu hynny mae’r milfeddyg o Abertawe, Ifan Lloyd sy’n dweud fod brechu yn flaenoriaeth.

“Allan o’r achosion gafodd eu cofnodi yn y Deyrnas Unedig eleni, mae dros 67% wedi cael eu cofnodi mewn ceffylau sydd heb eu brechu,” meddai.

“Brechu yw’r modd gorau i amddiffyn eich ceffyl rhag y ffliw – dyw e ddim 100% ond mae’r dystiolaeth yn dangos fod y ceffylau sy’n ei gael ar ôl cael eu brechu ddim yn mynd mor sâl ac yn llawer llai tebygol o ymledu’r feirws i rai eraill.”


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff: Prisoner early release puts strain on housing - council

Check Also

Man bailed over 1993 unsolved Tooze murders faces no further action

Their daughter’s boyfriend Jonathan Jones was found guilty of their murders and sentenced to life …

Man bailed over 1993 unsolved Tooze murders faces no further action

Their daughter’s boyfriend Jonathan Jones was found guilty of their murders and sentenced to life …

World Rally Championship: Oliver Solberg turns up pressure on leader Elfyn Evans in Sardinia

The rally continues with a further 13 stages before the winner – and the 2026 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime