google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Canslo ras 10K yn Wrecsam ar ôl ‘un gŵyn’ – trefnwyr

Advertisements

Mae cyfarwyddwr Run Cheshire a Gogledd Cymru, Michael Harrington, yn dweud bod problem wedi codi am y tro cyntaf fis Chwefror ar ôl ras hanner marathon Village Bakery Wrecsam, sydd hefyd yn cael ei threfnu gan yr un cwmni.

Cafodd wybod gan y cyngor bryd hynny bod cymaint o gwynion wedi bod nad oedd modd iddyn nhw gefnogi digwyddiadau yn y dyfodol.

Ar ôl methu â chael ateb o ran natur y cwynion, dywedodd Mr Harrington iddo wneud cais rhyddid gwybodaeth a chanfod mai dim ond un gŵyn oedd wedi ei gwneud.

“Dydyn nhw ddim yn caniatáu unrhyw weithgarwch chwaraeon yn yr ardal,” meddai, gan ddweud fod y 650 o bobl a oedd wedi cofrestru i redeg yn derbyn ad-daliad.

Dywedodd fod y penderfyniad yn “siom llwyr” i’r rheiny sydd wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y digwyddiad.

“Mae ‘na argyfwng iechyd, argyfwng gordewdra. Mae’r digwyddiadau yma yn rhai positif. Os nad yw pobl yn medru delio â ‘chydig o aflonyddu, mae’n drist iawn.”


BBC News

Views: 1

See also  Homes evacuated in security alert

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.