google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cannoedd o lyffantod wedi marw ar ôl i gwmni dŵr wagio cronfa

Advertisements

Bob blwyddyn, mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser i helpu llyffantod groesi ffordd yr A525 brysur o’u cynefin i’w man bridio traddodiadol yn y gronfa ddŵr.

Mae’r broses yn golygu aros tan mae’n dechrau tywyllu a defnyddio bwced i godi’r llyffantod a’u gosod ochr arall y ffordd.

Mae’n waith “hanfodol” yn ôl Hywel Wyn Griffiths, sy’n un o’r rhai sy’n helpu.

“Ni’n dod yma i helpu’r llyffantod fel bod nhw ddim yn cael eu lladd achos mae yna lawer yn cael eu lladd ac ma’ rhifau nhw wedi bod lawr,” meddai Mr Griffiths.

Eleni oedd un o’u blynyddoedd mwyaf llwyddiannus wrth i’r gwirfoddolwyr helpu bron i 1,500 croesi’r ffordd – bedair gwaith yn fwy na’r llynedd.

Ond, yn ôl Mr Griffiths, mae’r gwaith caled hynny wedi ei ddifetha ar ôl i’r cwmni dŵr wagio’r llyn.

“Mae o wedi lladd pob un o’r llyffantod, does dim un ar ôl,” meddai.

“Roedd y lle yn orlawn yma gyda nhw a’u hwyau a phopeth yn mynd yn dda, ond nawr maen nhw wedi dinistrio fo.”


BBC News

Views: 1

See also  Aramide Oteh o TNS wedi ei gam-drin yn hiliol, meddai'r clwb

Check Also

Tyson Fury v Anthony Joshua: Principality Stadium keen to stage all-British bout

Cardiff’s Principality Stadium has hosted late night boxing before, including Joe Calzaghe’s fight with Mikkel …

‘Colled enbyd’ – Teyrnged teulu wedi marwolaeth gyrrwr ar yr A40

Mae teulu dyn 38 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng ei fan a bws …

‘Labour’s call’ to pass Welsh budget, says first minister

In response Huw Thomas said the offer was not enough. “As it stands we will …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Diam parturient dictumst parturient scelerisque nibh lectus. 2mm no guitar pick 3 guitar picks.