google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caernarfon: Cyhuddo dyn yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â gwn ffug

Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â gwn ffug yng Nghaernarfon.

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o anrhefn ar Lôn y Bryn yn y dref am 21:38 nos Sul.

Cafodd pump o bobl eu harestio ddydd Llun mewn cysylltiad â’r achos.

Mae Mark Griffiths o Lon Helen, Caernarfon bellach wedi ei gyhuddo o fod â gwn ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi ofn.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd y byddai swyddogion yn parhau yn yr ardal am y tro.


Source link

Advertisements

See also  Galw am gydraddoldeb a thîm dan-23 i ferched pê-droed Cymru

Check Also

Cwmwl o fwg yn symud dros Fachynlleth wedi tân ar stad ddiwydiannol

Mae tua 30 o ddiffoddwyr tân yn ceisio dod i’r afael â thân mawr ar …

Dyn o Fangor yn ennill £10m ar ôl syrthio 30 troedfedd o beilon

Mae dyn o Fangor wedi cael iawndal o dros £10m ar ôl cael ei barlysu …

County Championship: The numbers behind Glamorgan’s Division One survival

However, One Day Cup and T20 Blast duties over the height of the summer clearly …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime