google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caernarfon: Babi wedi’i daro gan eitem a daflwyd gan bobl ifanc

Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i fabi mewn coets gael ei daro gan eitem a gafodd ei daflu gan griw o bobl ifanc yng Nghaernarfon.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei bod yn ffodus na chafodd y babi ei anafu, ond mae rhai cerbydau wedi cael eu difrodi mewn digwyddiadau tebyg ger Caer Rufeinig Segontium ar yr A4085.

Yn ôl yr heddlu mae swyddogion wedi adnabod 14 o bobl ifanc rhwng naw a 15 oed maen nhw’n amau o fod yn gyfrifol am daflu eitemau.

Bydd swyddogion yn siarad â theuluoedd y rheiny, meddai’r llu.

Dywedodd PC Jordan Jones o’r Tîm Plismona Cymdogaethau: “Mae’r ymddygiad diweddar yng Nghaernarfon yn cael effaith ddifrifol ar drigolion ac yn rhoi pobl mewn peryg.

“Yn ffodus, ni chafodd y babi ei anafu ond mi allai’r stori fod wedi bod yn wahanol iawn.”


Source link

Advertisements

See also  Timm van der Gugten: Bowler signs three-year Glamorgan extrension

Check Also

24/7 drilling in Cardiff park having ‘major impact’ on residents lives

An around-the-clock drilling operation in a park is having a “major impact” on the lives …

Phil Parkinson: Wrexham had to block outside noise

First goals for the club from Joe Worrall and Ben Whiteman helped Wrexham establish a …

Swansea City 0-1 West Ham: Vitor Matos tells Swans to use defeat as fuel

“I think that’s the most important thing today, that we played against a really good …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime