google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caergybi: Safle £51m i reoli ffiniau wedi Brexit i aros yn wag

94764b40 511c 11f0 b833 6598f6bf37f0.jpg

Advertisements

Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU “ddealltwriaeth gyffredin” gyda’r UE gyda golwg ar negodi ‘ardal iechydol a ffytoiechydol’ a allai eithrio, os caiff ei gytuno, lawer o fewnforion anifeiliaid byw a nwyddau rhag gwiriadau iechydol a ffytoiechydol ar y ffin.

Mae manylion y cytundeb i’w trafod o hyd.

Er bod gwiriadau ar fewnforion o’r UE wedi dechrau ar 30 Ebrill 2024, ni chafodd unrhyw ddyddiad cychwyn ei gyhoeddi erioed ar gyfer mewnforion o Iwerddon.

Yn yr un modd â safleoedd rheolaethau’r ffin ledled Prydain, darparodd Llywodraeth y DU arian ar gyfer y gwaith adeiladu – yn yr achos hwn, £44m o gost o £51m a ysgwyddwyd hyd at ddiwedd 2024-25.

Mae adeiladu’r safle yng Nghaergybi bron wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r adeilad gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn.

Caergybi yw porthladd fferi prysuraf Môr Iwerddon, gan drin mwy na 75% o fewnforion o Iwerddon i Brydain.

Roedd disgwyl i’r safle greu swyddi yn yr ardal leol, gyda disgwyl i hyd at 30 o weithwyr fod ar y safle dros gyfnod o 24 awr.


BBC News

Views: 0

See also  Parents of Nathan Osman who died in Benidorm call for answers

Check Also

Ebbw Vale moorland wildfire a ‘challenge’ due to wind

A moorland wildfire has been declared a major incident due the number of resources required …

Digwyddiad difrifol tân gwyllt yng Nglynebwy yn ‘heriol’ oherwydd y gwynt

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datgan digwyddiad difrifol yn dilyn …

Lansio ymchwiliad i lofruddiaeth dyn yn dilyn digwyddiad treisgar mewn pentref

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn gafodd ei adael mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Columbia women’s hiking boots. computer hardware – complete guide for beginners (form 1 computer studies). tech domain hostrite hosting news updates.