google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cadarnhad y bydd pwerdy niwclear newydd yn cael ei adeiladu ym Môn

Advertisements

Y syniad yn y pendraw yw y bydd adweithyddion modiwlar yn gyflymach i’w hadeiladu, ac yn rhatach – gyda’r cydrannau yn cael eu llunio mewn ffatrïoedd.

“Maen nhw wedyn yn cael eu cludo i’r safle yn barod i’w rhoi at ei gilydd, ychydig bach fel cadair o Ikea,” meddai’r Athro Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor.

Roedd yr SMRs sy’n cael eu cynnig yn “ffitio’n dda” gyda chapasiti’r grid cenedlaethol yn Wylfa, meddai – gan gynhyrchu oddeutu’r un faint o drydan a’r hen atomfa fawr sydd wrthi’n cael ei ddadgomisiynu.

Ond roedd ‘na “rai rhwystrau eto i’w goresgyn”, rhybuddiodd – o sicrhau caniatâd rheoleiddwyr, adeiladu’r ffatrïoedd sydd eu hangen a hyfforddi’r gweithlu.

Mae’r dewis i fynd am Wylfa yn dod ar draul safle Oldbury yn Sir Gaerloyw, oedd hefyd yn gobeithio ennill y ras i dderbyn yr adweithyddion bychain cyntaf sy’n cael eu dylunio gan gwmni Rolls Royce.

Cafodd yr hen atomfa niwclear yn Wylfa ei ddiffodd yn 2015, a roddwyd y gorau i gynlluniau blaenorol i adeiladu atomfa fawr newydd yno yn 2021.

Roedd y cwmni oedd yn gyfrifol am y cynllun hwnnw – Hitachi – wedi beio cynnydd mewn costau a methiant i ddod i gytundeb a Llywodraeth y DU o ran cyllid.


BBC News

Views: 0

See also  Women's Rugby Union World Cup: New Zealand 46-17 South Africa - highlights

Check Also

Liberato Cacace: Wrexham defender Cacace relishing New Zealand’s World Cup challenge

New Zealand, who came through the Oceania Football Confederation qualifiers to reach the finals, are …

Twin Peaks actor Owain Rhys Davies dies suddenly at 44

The Welsh National Theatre also paid tribute, with a statement reading: “Owain was a remarkable …

Ethan Galbraith: Swansea City and Northern Ireland midfielder ‘all good’ after calf injury

Swansea City midfielder Ethan Galbraith said his calf injury is “all good” after being included …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime