google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bywyd lliwgar artist tatŵ benywaidd cyntaf y DU

Advertisements

Roedd yna barch at ei gwaith dros y byd. Yn 1955 daeth yn ail yn y gystadleuaeth Champion Tattoo Artist of All England. Roedd yna ambell her yn ei bywyd hefyd.

“Sawl tro fe dorrwyd i mewn i’r siop a chafodd dyluniadau eu dwyn,” meddai Mr Hopkin-Thomas.

“Roedd ganddi gist fawr lle roedd hi’n cadw’i holl ddyluniadau a byddai’n eistedd arni i datŵio fel bod neb yn gallu cael atyn nhw.”

Roedd hi’n benderfynol, meddai, bod dim rheswm iddi beidio gwneud “y job roedd hi’n ei garu” dim ond am ei bod yn fenyw a’r diwydiant yn un llawn dynion.

“Ar ei dwylo roedd yna smotiau bach o liw ble roedd hi’n gwirio’r inc cyn tatŵio rhywun,” meddai Mr Hopkin-Thomas.

“Roedd yr arfbais deuluol ar ei chefn, fel ar gefn ei thad, a gwe pry cop a chroes.”

Roedd yn gweithio mewn trefi porthladd ar draws y DU fel Chatham, Aldershot a Portsmouth gan roi tatŵs i forwyr oedd yn teithio trwyddyn nhw.

Meddai Mr Hopkin-Thomas: “Roedd hi’n gweithio mewn byd ble roedd yn rhaid iddi fod yn ofalus ond ar yr un pryd fe wnaeth hi fe gyda ‘chydig o panache.”

Fe fyddai arwyddion yn ei siopau yn rhybuddio rhag ymddwyn yn wael, gan gynnwys un yn dweud: ‘If you’ve had one over the eight… you are too late.’

Am flynyddoedd roedd Mr Hopkin-Thomas wedi cadw dros 1,000 o bethau i gofio bywyd Jessie gan gynnwys ei dyluniadau, lluniau teuluol a’r peiriannau a ddefnyddiodd i greu ei tatŵs trawiadol.


BBC News

Views: 1

See also  Murderer David Braddon used phone in jail to tell women to move money

Check Also

Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul …

Dolly Parton just gorgeous’ recalls The One Show Alex Jones

Dolly Parton may be known for her glamorous wigs and full face of make-up, but …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn

Mae Sioe Môn yn un o’r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq with 20 mg/ml nicotine. elfbar elfa kit.