google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bydwragedd Oes Fictoria: ‘Hoelion wyth eu cymunedau’

39fad940 25b3 11f0 ba33 a19813bde9a6.jpg

Yn ystod y cyfnod Fictoraidd, roedd bydwragedd, fel rheol, yn darparu cefnogaeth emosiynol a gofal meddygol sylfaenol i famau beichiog, yn ogystal â’u cynorthwyo yn ystod ac yn dilyn genedigaeth.

Er gwaethaf eu rôl hanfodol, roedd bydwreigiaeth yn alwedigaeth anffurfiol gyda’r mwyafrif o fydwragedd yn fenywod hŷn gyda phrofiad ymarferol o eni neu wedi dysgu eu crefft trwy fwrw prentisiaeth gyda bydwraig leol arall.

Ar y cyfan, roedd gwybodaeth a chyngor ar sut i gynorthwyo mewn genedigaeth yn ddiogel yn cael ei drosglwyddo ar lafar.

Serch hynny, yn 1867-8 cyhoeddwyd cyfrol arloesol Dr D.W Williams, Porthaethwy – Geni a Magu: sef llawlyfr y fydwraig a’r fagwraig. Mae’r meddyg yn cynnig cynghorion ar nifer o bethau gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i dorri’r llinyn bogail (umbilical cord) a sut i gyflwyno baban newydd-anedig i’w fam:

‘Yn fuan ar ol genedigaeth y plentyn, gellwch hysbysu ei rywogaeth i’w fam, os bydd yn iach ac o drefniad da; ond os bydd rhyw goll ynddo, neu gamluniad, gwell ydyw peidio hysbysu yn rhy fuan a disymwth.’


BBC News

Advertisements

See also  Swan dies after being shot at Hendre Lakes in Cardiff

Check Also

”Lot o ddynion yn dioddef yn ddistaw bach’ – y tîm pêl-droed sy’n cefnogi ei gilydd

Yn ôl yr Athro Johnathan Scourfield o Brifysgol Caerdydd, mae wnelo sawl rheswm biolegol a …

Teulu Elfyn Evans ‘mor, mor browd ohono – mae o’n haeddu fo’

Roedd “gwaeddi mawr gan y dorf”, meddai Dylan, “yna tawelwch llwyr… yna, dyma ffan Estonian …

Elfyn Evans defies history to join Britain’s rally greats Colin McRae and Richard Burns with WRC title

For what must have felt like an eternity, Elfyn Evans feared history was repeating itself …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime