google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bwyd gyda ‘ysbryd Cymreig’ yn helpu cogydd o Geredigion i’r brig

Advertisements

Yn ôl Caitlin, ei theulu oedd ei hysbrydoliaeth pennaf: “Mae bwyd Cymreig sy’n rhan o’n deulu i yn lot o ysbrydoliaeth.

“Ni’n deulu o foodies – mae pawb yn big cooks, mae Mam yn caru bwyd. Mae swper yn rhan mwya’ pwysig o’r dydd so mae hi’n planio’r wythnos rownd be’ sy’ i swper.”

Pan oedd Caitlin yn bump oed hi oedd yn gyfrifol am baratoi’r pwdin bob dydd Sul, gan gychwyn gwneud hynny gyda help ei mam ond yn fuan iawn yn paratoi’r bwyd ar ei phen ei hun.

Ac mae aelodau eraill o’r teulu yn rhannu’r angerdd am goginio: “Mae Nain yn caru bwyd Ffrangeg a choginio – roedd hi’n hoffi cael dinner parties. Mae rhieni Dad fi yn byw ar ffarm so mae bwyd yn rhywbeth pwysig fan ‘na. Maen nhw’n Gymreig iawn so mae lot o gawl, bara brith a phethe fel na.”

Serch hynny, bwyd Ffrangeg yw angerdd Caitlin, sy’n gweithio ym mwyty Ynyshir rhan amser dan oruchwyliaeth y cogydd Gareth Ward: “Dwi yn dysgu mwy am fwydydd gwahanol – mae lot o fwyd Japanese yn Ynyshir so dwi wedi dysgu lot o bethau newydd.

“Mae Gareth Ward yn anhygoel fel mae meddwl e’n gweithio, fel mae e’n gallu meddwl am y cyrsiau i gyd ac mae e jest yn neud e yn naturiol. Mae e’n rili ddiddorol i weld ac i ddysgu wrth rhywun fel ‘na.”

Y cam nesaf i Caitlin ar ôl ei llwyddiant ac ar ôl gorffen ei chwrs yng Ngholeg Ceredigion yw i weithio yn Ynyshir llawn amser. Yn y pen draw ei gobaith yw teithio’r byd fel cogydd: “Yr end goal yw bod yn private chef ond nawr dwi ishe ffocysu ar weithio yn Ynyshir. Fydd hynny’n anhygoel i roi ar CV fi.”


BBC News

Views: 1

See also  Ceredigion: Bronze Age treasures on display in Aberystwyth museum

Check Also

40 mlynedd ers i Gymru ysbrydoli 'duw animeiddio' Studio Ghibli

Cafodd ffilm gyntaf stiwdio animeiddio fwyaf y byd ei hysbrydoli gan ymweliad â Chymru. BBC …

‘Merched o Gymru yn dod i’n clinig yn Llundain yn sgil gofal erthyliad gwael’

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mae modd cael erthyliad hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd …

‘Cael triniaeth diabetes math 2 wedi achub fy mywyd’

Ddydd Mawrth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn lansio dau adnodd cenedlaethol …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
prime peptides buy research peptides online. Ostarine mk 2866 sarm powder – 1g. Cart biolongevity labs.