google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth yw gwerth gwersyll Glan-llyn i economi Gwynedd?

Advertisements

Erbyn heddiw, mae Glan-llyn yn denu 30,000 o wersyllwyr y flwyddyn, yn cyflogi hyd at 60 aelod o staff ac yn cynnig prentisiaethau ym maes gweithgareddau awyr agored.

Yn ôl Dr Edward Tomos Jones, sydd yn economegydd ym Mhrifysgol Bangor, mae’n anodd mesur neu roi ffigwr ar gyfraniad economaidd yr Urdd a Glan-llyn.

“Mae mwy o effaith nag beth mae’r ffigyrau yn dangos. Os ydyn ni’n meddwl am y profiad mae’r plant yn ei gael o fynd yna – maen nhw’n dysgu i fod yn greadigol, i arwain tîm ac i gyfathrebu a chyflwyno,” esboniodd.

“Os ydyn ni’n meddwl am economi’r dyfodol a’r effaith bydd AI [deallusrwydd artiffisial] yn ei gael ar fusnesau. Dyna’r sgiliau fydd busnesau eu hangen. Nid yn unig mae llefydd fel hyn yn rhoi cyfleoedd i blant ond bydd y plant hefyd yn cael effaith bositif ar economi’r dyfodol.”

Yn ôl adroddiad gan Arad Research ar werth economaidd yr Urdd yn 2022-2023, mae’r gwersyll yn cyfrannu £3.2m i economi Gwynedd yn flynyddol.

Mae’n ychwanegu bod £0.9m yn cael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol pob blwyddyn gyda £1.3m yn cael ei wario ar gyflogau staff sydd yn byw yng Ngwynedd.


BBC News

Views: 0

See also  Ffrae am ffenest 'ofnadwy' tŷ gwyliau yng Ngwynedd

Check Also

Cerddorion o Gymru yn Codi'r To yn Sweden

Criw ifanc o Gymru yn teithio i Sweden er mwyn perfformio yn y Scandinavium BBC …

Tour de Suisse Femmes: Zoe Backstedt sprints to stage three victory

British rider Zoe Backstedt (Canyon-SRAM) won stage three of the Tour de Suisse Femmes on …

Wales appoint Paul James as permanent scrum coach

Wales have appointed Paul James as the national team’s permanent scrum coach. The 44-year-old former …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Cassinox güncel giriş 2026 → resmi adres & yeni domain.