google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Beth yw gwaddol T. H. Parry-Williams heddiw?

Angharad Price:

“Roedd y prifathro wedi rhoi poster o soned Tŷ’r Ysgol gan T. H. Parry-Williams ar wal ein hysgol gynradd, ochr yn ochr ag Y Llwynog gan R. Williams Parry ac Ywen Llanddeiniolen gan W. J. Gruffydd (tri bardd lleol).

“Roeddwn yn arfer darllen y geiriau agoriadol, ‘Mae’r cyrn yn mygu er pob awel groes’, ac yn methu gwneud pen na chynffon ohonyn nhw. ‘Cyrn’ oedd y pethau ar ben tarw, a ‘mygu’ oedd methu cael eich gwynt. Cyrn yn mygu? Mae’n siwr fy mod yn meddwl mai bardd swrreal oedd T. H. Parry-Williams bryd hynny.

“Yn ddiweddarach mi ddes i ddarllen ei ysgrifau a dod i’w hoffi nhw’n fawr, y disgrifiadau manwl sy’n creu mwy a mwy o hud y manylaf maen nhw’n mynd, fel meicrosgop.

“Dwi’n credu mai Hen Chwareli ydi fy hoff ysgrif. Mae’n sôn am domennydd llechi, a’r bersonoliaeth a’r anwyldeb sydd ynddyn nhw wrth iddyn nhw duchan ac ochneidio fin nos. O ran ei farddoniaeth, mae’r gerdd a’r teitl annisgwyl, Dwy Gerdd, yn ffefryn. Dwi’n ei gweld yn debyg i ffiwg gerddorol, neu’n ddarn o gelf giwbistaidd.


BBC News

Advertisements

See also  Former Welsh Tory leader Andrew RT Davies off frontbench

Check Also

First minister says NHS waits over two years will be eradicated within year

The Plaid Cymru Welsh government will get the longest waits in the NHS down to …

Ben Sheaf: Midfielder’s emotional Wrexham return after lengthy absence

Keven Schlotterbeck’s 89th-minute own goal added to Kieffer Moore’s header in the first-half as Wrexham …

From punk to politics – the making of new Reform Wales leader Helen Jenner

Born in Neath, where her mother is from, Jenner moved to Anglesey aged two where …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime