google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth yw gobeithion rhai o’r ASau newydd?

Gyda 32 o aelodau seneddol wedi’u hethol yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, maen nhw bellach wedi cyrraedd San Steffan ac yn barod i gychwyn ar eu gwaith.

Allan o’r 32 aelod, mae 13 ohonyn nhw yn rhai newydd.

Gyda’r Ceidwadwyr wedi colli eu holl seddi yng Nghymru, mae’r aelodau newydd yn cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd yr AS Llafur newydd ar gyfer Canol a De Penfro, Henry Tufnell, ei fod yn “hynod gyffrous i fod yn rhan o hwn i gyd”.

Mae Llinos Medi, AS Plaid Cymru Ynys Môn, eisoes wedi ymweld â Thŷ’r Cyffredin yn rhinwedd ei swydd flaenorol ond dywed ei bod yn “nerfus” cychwyn y rôl newydd.

Roedd yna nifer fawr yn ffarwelio ag AS Plaid Cymru Caerfyrddin, Ann Davies, yng Nghaerfyrddin ddydd Llun.

Dywedodd ei bod yn “barod am y gwaith ac am y sialens”.

Bydd yr aelodau yn tyngu llw ddydd Mawrth. Mae bellach modd gwneud hyn yn Gymraeg.


Source link

Advertisements

See also  Porthcawl's Coney Beach amusement park history up for sale

Check Also

Reu! Llechi wedi eu naddu ym Mhen-y-groes i ddathlu cyfraniad Dyfrig Evans

Meddai Llio: “Mae’n gyfle da i atgoffa pobl o’r cyfoeth o bobl sy’n byw yn …

2026 World Track Cycling Championship: Great Britain’s men out in first round in team sprint while women takes silver

Great Britain’s Joe Truman said team-mate Matt Richardson’s withdrawal was “not ideal” and they had …

Newport woman died after paint can exploded in garden fire

A woman died three months after suffering severe burns when a paint canister exploded in …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime