google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth yw blaenoriaethau byd amaeth cyn etholiad y Senedd?

Mae Ioan Phillips o Aber-miwl yn astudio Diploma Cenedlaethol Uwch mewn amaeth ac yn gweithio ar y fferm deuluol yn ogystal â fferm leol.

Dywedodd y byddai “wir yn hoffi” gweld mwy o drafodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) a “hefyd newidiadau posibl iddo”.

Mae’r cynllun, a lansiwyd ym mis Ionawr eleni, yn disodli hen gymorthdaliadau’r UE ac yn talu ffermwyr am waith amgylcheddol a dulliau cynaliadwy, er iddo achosi dadlau dros ei effaith ar incwm a chynhyrchu bwyd.

Esboniodd Ioan fod rhai o’r rheolau presennol, fel cyfyngiadau ar dyfu india-corn ar lethrau, yn her i nifer o ffermydd.

“Ar hyn o bryd does dim modd tyfu maize ar lethrau o 12% neu fwy ac ma’ hynny yn anodd iawn i nifer fawr o ffermydd.”

Dywedodd nad yw ei fferm deuluol yn sicr a ydynt am ymuno â’r cynllun.

“Dwi’n gwybod am rai sydd ddim yn mynd i mewn iddo fe oherwydd y rheol hyn,” meddai.

“Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n gweld mai’r ffermydd mawr fydd yn gwneud yr arian – mae’n anodd iawn i’r ffermydd bach.

“Dy’n nhw ddim yn gallu gwneud arian oherwydd pethau fel effaith TB a’r cynllun CFfC – mae’n anodd iawn iddyn nhw.”

Advertisements




BBC News

Views: 3

See also  Fewer Christmas hospital admissions expected as flu rate slows

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
A simple, neat ad bar featuring a few text ads appears at the bottom of every website within the network.