google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth ydy hanes Sandra Picton dyddiau yma?

Advertisements

Mae’r gallu i wneud i bobl chwerthin yn beth gwerthfawr meddai, ac mae’n prysuro i rannu atgof sydd wedi aros efo hi dros y blynyddoedd.

“Un diwrnod ro’n i’n cerdded ar hyd stryd ym Mhwllheli a dyma ‘na wraig yn rhedeg ar fy ôl a gweiddi, ‘Sandra!’.

“Felly, ar y gair ‘Sandra’ dyma droi i wynebu’r wraig yma.

“Eisiau diolch i mi oedd hi. Mi eglurodd y wraig bod ei mab yn dioddef o iselder ysbryd ac nad oedd o wedi yngan gair wrthi hi, ei dad na neb arall am fisoedd lawer, heb sôn am chwerthin.

“Ond un noson roedden nhw’n edrych ar bennod o C’mon Midffîld a’r mab yno yn y stafell efo nhw.

“Mi glywon nhw sŵn o’r gadair lle roedd y mab yn eistedd, a’r sŵn oedd chwerthin tawel. A dyna ddechrau siwrnai eu mab at wellhad. Roedd yn fraint clywed bod C’mon Midffîld wedi cyfrannu at godi ysbryd y gŵr ifanc. Dyna wyrth hiwmor mae’n bur debyg.”

Siân oedd yr unig fenyw ym mhrif gast C’mon Midffîld yr adeg honno; sut brofiad oedd hynny i actor ifanc?

“Wel, o’n i wedi arfer. Es i i ysgol breswyl Coleg Llanymddyfri, ac ysgol i hogia oedd hi’n bennaf. Oedd yna tua 200-300 o fechgyn a dim ond 13 o ferched yna. Felly ro’n i wedi hen arfer bod mewn llefydd lle oedd merched yn y lleiafrif.

“O’n i wrth fy modd yng nghwmni dynion, ond weithiau oedd ‘na linell yn cael ei chroesi pan oedd dynion yn siarad am bethau dynion efo agweddau gwrywaidd… a phryd hynny, ro’n i’n cael fy ngadael allan o’r sgwrs ac yn cael hynny’n anodd.

“Ond mi oedd ‘na wastad barch yng nghyd-destun yr actio tra’n ffilmio, achos actorion proffesiynol oeddan ni.”


BBC News

Views: 1

See also  Wales beat Netherlands to qualify for first Women's World Cup

Check Also

Cyn-AS Ceidwadol o Gymru yn pledio’n euog i drosedd gamblo ar ddyddiad yr etholiad

Pan ddaeth y sgandal i’r amlwg gyntaf, fe wnaeth Williams gyfaddef iddo wneud “camgymeriad enfawr” …

Galw ar Andy Burnham i ‘weithredu’n wahanol i’w ragflaenwyr’ ar ddatganoli

Mae llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick hefyd yn galw am fwy …

Welsh football bosses reveal cost to improve facilities

The FAW-backed review saw local clubs and local authorities – and other sporting bodies – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Heavy equipment transport pima az. heavy equipment transport cook county il.