google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beirniaid i gael y ‘penderfyniad terfynol’ yn yr Eisteddfod wedi helynt y Fedal Ddrama

90259810 2364 11f0 beaa 09e98685e1a2.jpg

Advertisements

Yn ôl Myrddin ap Dafydd, y bwriad fydd ymgorffori’r argymhellion yng nghyfansoddiad yr Eisteddfod.

“D’win meddwl bod hi’n bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i annog y celfyddydau yng Nghymru trwy gystadleuaeth i ymestyn y ffiniau. Mae’n rhaid bod gweithdrefnau yn eu lle i ddelio gyda phryderon all godi o waith creadigol ond mae angen parhau i annog creadigrwydd.”

Fe gadarnhaodd Myrddin ap Dafydd nad oedd trafodaeth ddoe am amgylchiadau atal y Fedal Ddrama ym Mhontypridd.

“Mae’n bosib dod at hwnna eto. Roedd rhaid i ni flaenoriaethu oherwydd Steddfod Wrecsam a’r Garreg Las i ddechrau. Dydy hynny ddim yn cau’r drws ar drafod yn y dyfodol.”

“Yn dilyn ddoe, dwi’n meddwl bydd yna hyder yn y broses at y dyfodol.”

Mae’r dramodydd Paul Griffiths wedi beirniadu’r ffaith nad oedd trafodaeth am amgylchiadau atal y Fedal Ddrama.

Mewn llythyr agored, dywedodd Mr Griffiths: “All neb call symyd ymlaen, drwy anwybyddu’r gorffennol.

“Dyna un o wersi sylfaenol unrhyw wellhad seicolegol neu gorfforol: osgoi dilyn yr hen batrymau, a dysgu o’n camgymeriadau.”


BBC News

Views: 0

See also  World Rally Championship: Elfyn Evans' lead trimmed as Sebastien Ogier wins in Portugal

Check Also

Ex-Tory Senedd leader Paul Davies wants to become Llywydd

Paul Davies needs backing from Plaid Cymru or Reform to become the first Conservative in …

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2026

Mae enwau’r cyfrolau sydd ar Restr Fer Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am 2026, wedi …

Anthony Slaughter: The punk pioneer making Senedd history for the Greens

One of the two new Wales Green party Senedd members once made noise in a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.