google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bachgen yn ‘beichio crio’ dros ganslo trip Disney ar ôl canser

Fe wnaeth bachgen pump oed a gafodd cemotherapi am diwmor ar ei ymennydd “ddechrau beichio crio” pan glywodd fod ei hediad i Disneyland Paris wedi’i ganslo.

Roedd teulu Charlie Styles o Lynebwy i fod i deithio o faes awyr Manceinion, ond fe ddywedodd cwmni easyJet fod y daith wedi’i chanslo ac nad oedd modd iddyn nhw fynd ar wahanol hediad.

Methodd elusen Make a Wish UK, a drefnodd y daith, roi’r teulu ar awyren arall, medd mam y plentyn Annalise Styles.

Mae easyJet wedi ymddiheuro am brofiad y teulu gan ddweud mai diogelwch a lles cwsmeriaid yw eu prif flaenoriaeth.

“Pan gyrhaeddon ni’r maes awyr fe ddywedodd dynes wrth y ddesg bod yr ehediad wedi’i ganslo, cyn gofyn i ni gamu i’r ochr,” medd Ms Styles.

Roedd Charlie a’i chwaer wyth oed Maicie wedi’u siomi pan ddywedodd eu mam na fyddan nhw’n mynd dramor.

“Fe ddechreuon nhw feichio crio. Doedden nhw methu â deall pam nad oedden nhw’n cael mynd.”

Yn 2023 fe wnaeth Charlie gwblhau 18 mis o gemotherapi ar ôl derbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd.

Roedd hwn yn “gyfnod heriol” i’r teulu cyfan, medd Ms Styles, a oedd yn edrych ymlaen at y daith i Baris.

Roedd y teulu’n edrych ymlaen yn arbennig at frecwast lle’r oedden nhw i fod i gwrdd â’u hoff gymeriadau Disney.


Source link

Advertisements

See also  Cyngerdd arbennig i ddathlu can mlynedd ers agor y Stiwt

Check Also

Hawk fighter jets to resume flying at RAF Valley after crash

“The decision has been taken at the highest level, after extensive scrutiny, that the necessary …

Bangor mum fears baby will be scarred for life after hot gravy spill at pub

She then wrapped Neli’s hand and leg in a muslin cloth and took her to …

Mam yn poeni y bydd gan ei babi greithiau am oes wedi damwain ‘erchyll’

Ers y digwyddiad mae Ms Griffiths wedi bod yn mynd â Neli yn ôl i’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime