google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bachgen ‘wedi colli hanner un o’i geilliau ar ôl ergyd gan heddwas’

7db84440 4b36 11ef b2d2 cdb23d5d7c5b.jpg

Advertisements

Yn ddiweddarach, gwyliodd y rheithgor gyfweliad heddlu gyda’r bachgen.

Dywedodd y bachgen wrth y swyddog oedd yn cyfweld ei fod wedi ei “ypsetio” wedi i’w ffrind gael ei wthio i lawr y grisiau, a’i fod hefyd yn “eithaf meddw”.

Cyfaddefodd iddo ddadlau gydag un swyddog oherwydd ei fod yn teimlo nad oedd yr heddlu’n deall beth oedd yn digwydd – a dywedodd ei fod wedi rhegi ar y swyddog oedd yn gwisgo sbectol.

“Dyna pryd y gwnaeth afael ynof a dweud fy mod i’n gwrthsefyll,” meddai, a daeth swyddogion eraill.

Dywedodd Mr Murphy ei fod yn credu bod dau neu dri o swyddogion y tu ôl iddo neu wrth ei ochr.

Aeth yn ei flaen i ddweud fod un swyddog wedi rhoi pen-glin yn ei geilliau, a hynny mewn tuag at i fyny.

Ychwanegodd Mr Murphy ei fod mewn poen “yn syth” – poen nad oedd “erioed wedi’i deimlo o’r blaen”.

Ar ôl cael ei roi yn y car heddlu, fe gyfaddefodd iddo geisio cicio drws y car ar agor. “Roeddwn i angen bod yn yr ysbyty,” meddai.

Dywedodd Mr Murphy ei fod wedi derbyn “chwistrell bupur” yn y car heddlu, gan ychwanegu: “Dwi’n siŵr mai’r un gyda’r sbectol wnaeth.”

Cafodd lluniau teledu cylch cyfyng gan Gyngor Gwynedd o’r digwyddiad honedig eu dangos i’r rheithgor hefyd.

Mae aelodau’r rheithgor wedi’u hanfon adref am y diwrnod, a bydd yr achos yn parhau ddydd Mercher.


BBC News

Views: 0

See also  Man jailed after killing best friend with one punch

Check Also

Drakeford rejects Plaid claims Welsh government budget is worse than thought

The former first minister says Plaid will struggle to deliver their election promises. BBC News …

Film about 'working-class martyr' Dic Penderyn suffers 'huge' setback

A planned film bringing the story of Dic Penderyn to the big screen has experienced …

Gareth Bale forms new sports fund with club investment targeted

Gareth Bale has reiterated his desire to buy a football club after launching a new …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Real estate consultant steve schoepfer at. We are the best processors & traders of raw cashew nuts. Just a moment....