google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bachgen o Fôn sydd â chyflwr ar ei galon yn gwireddu breuddwyd

Mae’r cyflwr ar ochr dde ei galon yn golygu bod lefel ocsigen Oliver yn isel iawn, yn ôl ei fam.

“Mae ganddo Cyanosis, sy’n golygu bod lliw glas ar ei groen yn aml, mae’n blino’n hawdd ac yn teimlo’r oerfel yn fwy.

“Mae o’n cael poenau yn ei frest ac mae o’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, ond mae o wastad yn brwydro gyda gwên.”

Yn naturiol, mae Oliver yn edrych ymlaen yn ofnadwy at ei daith, y tro cyntaf erioed iddo gael teithio ar awyren.

“Dwi heb fod mewn awyren o’r blaen ac mi fydd o’n hwyl cael mynd i Lapland i weld Siôn Corn, am fy mod i wedi bod yn hogyn dewr”, meddai Oliver.

“Dwi’n edrych ymlaen at ofyn i Sion Corn am gar pedlo glas a gobeithio ga’i fynd ar y toboggan a’r snow mobile a dwi’n edrych ymlaen at weld eira ac am adeiladu gwesty mawr allan o eira, hefo sawl cegin a ‘stafell folchi ac ella dod â ‘chydig o eira yn ôl i Niwbwrch.”


BBC News

Advertisements

See also  Y Gyllideb: 'Pob adran allweddol i gael mwy o arian'

Check Also

Paul Raynor: Bristol Rovers assistant reveals bowel cancer diagnosis

Bristol Rovers assistant head coach Paul Raynor has been diagnosed with bowel cancer. The 60-year-old …

URC: Dragons captain Ben Carter and Scarlets fly-half Sam Costelow return for Welsh derby

Dragons: Anderson; Dyer, Inisi, Owen, Tuitavuki; de Beer, Williams; Martinez, Dee, Hunt, S Davies, Carter …

URC: Wales lock Teddy Williams back in Cardiff colours for Zebre’s visit

Cardiff have made four personnel changes to the side that beat Scarlets with hooker Dafydd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime