google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Athletwr wedi marw ar ôl cystadlu yn Ironman Abertawe

1752688375 d7ab1ea0 625a 11f0 82c0 a54b0ccf49e8.jpg

Mae athletwr wedi marw ar ôl cystadlu yn nigwyddiad triathlon Ironman 70.3 Abertawe penwythnos diwethaf, yn ôl y trefnwyr.

Mewn datganiad, dywedodd Ironman Cymru fod yr athletwr wedi cael gofal meddygol ar unwaith hanner ffordd drwy ran nofio’r ras ddydd Sul 13 Gorffennaf, ar ôl i swyddogion diogelwch sylwi fod yr athletwr mewn trafferth.

Cafodd yr athletwr ei gludo wedyn i’r ysbyty gan barhau i gael triniaeth bellach, ond bu farw ddydd Mercher.

Yn y datganiad dywedodd y sefydliad bod eu “cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau’r athletwr”.

“Byddwn yn parhau i gynnig ein cefnogaeth iddyn nhw gan eu cadw yn ein meddyliau wrth iddyn nhw fynd trwy’r cyfnod heriol hwn” ychwanegodd y datganiad.

Dyma oedd y tro cyntaf i ddigwyddiad o Gyfres Broffesiynol Ironman gael ei gynnal yn y DU.

Roedd yn cynnwys nofio 1.2 milltir yn Noc Tywysog Cymru, cwrs beicio 56 milltir o hyd ar hyd ffyrdd arfordirol a chefn gwlad y Gŵyr, a ras ar droed 13.1 milltir ar hyd y Mwmbwls.


BBC News

Advertisements

See also  Luke Evans: Growing up gay as Jehovah's Witness in Welsh valleys

Check Also

Gollyngiad cerosîn wedi estyn dros ddwy filltir ar hyd Afon Taf

Yn ôl Gareth Llewelyn, cyn-swyddog gwarchod yr amgylchedd rhag deunyddiau peryglus gyda gwasanaeth tân y …

Gwynedd drug dealer Arthur Hughes has £80,000 of assets confiscated

A 75-year-old drug dealer has had more than £80,000 worth of his assets confiscated. Arthur …

River Taff fuel pollution spreads 2.5 miles from Taffs Well

People have been advised to keep their windows and doors shut due to a widespread …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime