google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Megan Davies

Megan Eluned DaviesFfynhonnell y llun, Megan Eluned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Megan Eluned Davies sy’n Ateb y Galw yr wythnos hon.

Mae Megan yn dod o Lanfihangel-y-creuddyn yng ngogledd Ceredigion yn wreiddiol ond mae hi bellach yn byw ym Mrynberian yng ngogledd Sir Benfro.

Mae Megan yn aelod o dîm Talwrn Y Glêr, ac yn mwynhau ysgrifennu’n greadigol.

Mae hi’n gyn-aelod o fudiad y ffermwyr ifanc, a’r uchafbwynt iddi oedd ennill Cadair CFFI Cymru Ynys Môn yn 2013; ac yna ennill y dwbl, sef y Gadair a’r Goron yn 2018 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Y Barri.

Mae cyfres newydd o’r Talwrn yn dechrau ar BBC Radio Cymru ar Nos Sul 19 Ionawr.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Un o’m hatgofion cyntaf yw mynd â gwartheg i fart Tregaron yn y Land Rover las.

Byddwn yn eistedd yn yr un man bob tro dan gesail Dad-cu ac yn cael fy llorio gan sŵn yr arwerthwr a charnau’r gwartheg yn y cylch. Yna’r uchafbwynt fyddai cael mynd i’r parc chwarae cyn dod adref.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yn y byd i gyd yw’r stand laeth ar dop ein lôn. Dyma’r peth cyntaf sy’n fy nghroesawu gartref bob tro.

Mae’n sefyll o dan hen goeden sycamorwydden ac yn edrych i lawr ar y fferm lle ces i fy magu, sef Sarnau Fawr.

Rwy’n cofio chwarae ‘Eisteddfod’ arni pan oeddwn yn fach, a’i thrin fel llwyfan bychan i ganu ac actio. Pan fyddaf yn sefyll arni, byddaf bob amser yn meddwl am yr holl bethau y mae hi wedi’u gweld a’u clywed, ac yn meddwl am bwysau’r churns llaeth yr arferai ei dal.

Daeth hi hefyd yn lle pwysig i mi ym mis Medi 2022, gan i Dyfed a minnau gynnal ein gwledd priodas mewn marcî yn y cae gyferbyn, a chael dathlu gyda theulu a ffrindiau tan yr oriau mân.

Ffynhonnell y llun, Megan Eluned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dyma’r sand laeth ar dop y lôn ble mae Megan yn byw

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ein priodas heb os, yn gweld dau deulu’n joio yng nghwmni ei gilydd.

Heblaw am hynny, allwch chi ddim maeddu nos Lun yn y Sioe Fawr, sef noson gyntaf Members.

Dawnsio i diwns DJ Bry a bownsio o un lle i’r llall yn nabod bron pawb trwy gysylltiadau o’r Brifysgol a’r CFFI.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gofalus. Annibynnol. Trefnus.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti’n meddwl nôl?

Yn rhyfedd, mae dwy ynys wedi dod yn bwysig i mi, sef Ynys Môn ac Ynys y Barri (ac nid oherwydd Gavin and Stacey).

Gwna i fyth anghofio’r cyffro o deithio gyda chriw o’m cyd-aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Trisant ar gyfer Eisteddfod CFFI Cymru yn Ynys Môn lle enillais y Gadair yn 2013.

Fe gawson ni lwyth o sbort yn trio ffitio’r gadair i mewn i’r bws mini ar y ffordd nôl i Geredigion.

Wedyn yn 2018, heidio i lawr i Ynys y Barri, a’r nerfusrwydd mawr wrth geisio cadw nid un cyfrinach, ond dwy gyfrinach wrth ennill y dwbl.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Megan yw’r person cyntaf mewn hanes i gyflawni’r gamp o gipio’r gadair a’r goron yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru, a hynny nôl yn 2018

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya’ o gywilydd arnat ti erioed?

Mae digon o droeon trwstan wedi codi yn ystod fy nghyfnod gyda’r CFFI.

Ond y tro hwn, taith fythgofiadwy i’r Wladfa oedd hi. Fe gawson ni’r cyfle i ymweld â fferm oedd yn cadw ceffylau i’w marchogaeth. Yn amlwg, roedd y rhain yn geffylau tipyn mwy gwyllt na’r rhai roeddem ni wedi’u harfer â nhw yng Nghymru, ac fe daflodd fy ngheffyl i fi’n bendramwnwgl i’r llawr.

Fe ges i glais piws pert dros fy llygad a lwmpyn maint afal ar fy nhalcen.

Roedd y swyddogion diogelwch yn gwrthod credu mai’r un person oeddwn i â’r llun ar fy mhasbort wrth i mi geisio mynd trwy security ar fy ffordd adref.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwnes i lefen y glaw pwy’ ddiwrnod yn meddwl am fy mab yn codi’i bac i fynd i’r brifysgol, i drafeilio a gadael y nyth.

Mae’r mab yn 10 mis oed!

Ffynhonnell y llun, Megan Eluned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Megan y Gaucho ar ei cheffyl ym Mhatagonia

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Torri addunedau blwyddyn newydd.

Mae fy adduned ar gyfer 2025 o beidio â bwyta siocled yn beryglus o agos at gael ei thorri.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod? Pam?

Byddwn i’n hoffi cael diod gyda’r brodyr Gallagher o Oasis, a’u holi beth aeth o’i le, a gweld ydyn nhw wir yn dod ‘mlaen erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, Megan Eluned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mi fase Megan yn treulio ei diwrnod olaf ar y blaned ar gopa Foel Eryr, Preseli

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi ges i’r ffugenw ‘terrier’ pan oeddwn yn chwarae pêl-droed yn yr ysgol gynradd.

Fi yw’r unig ferch yn y canol rhwng dau frawd, felly dwi wedi hen arfer â gorfod taclo, cicio a mynd amdani mewn unrhyw gêm gorfforol.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Cerdded i gopa Foel Eryr ac yna’n ôl dros Fwlch-gwynt ar fynyddoedd y Preseli, gyda Dyfed ac Eurig yn gwmni i mi, gan ryfeddu at y golygfeydd o Sir Benfro a Cheredigion o’n blaenau, a gobeithio cael cip ar fynyddoedd Wicklow dros y don hefyd.

Ffynhonnell y llun, Megan Eluned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Llun o ddiwrnod cneifio Pengraig 1919

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Rwy’n cyfri’r llun yma fel trysor personol, sef llun o ddiwrnod cneifio Pengraig 1919.

Dyma ein cartref teuluol yng Nghwmystwyth, ac rwy’n dwlu gweld fy nghyndeidiau’n sefyll yn gôr o flaen y ffermdy.

Bob tro rwy’n edrych ar y llun yma, rwy’n gweld rhywbeth gwahanol. Rwy’n gweld y cneifwyr yn y rhes flaen, y plantos gyda’u mamau, y cymdogion yn eu dillad gorau, a’r gwragedd fu’n gweithio’n galed i fwydo’r holl bobl yma.

Er bod ein teulu ni’n dal i fyw a ffermio ar y mynyddoedd hyn, mae’n rhyfeddol i feddwl cymaint sydd wedi newid.

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Byddwn i’n hoffi bod yn Eurig am ddiwrnod, sef fy mab bach 10 mis oed, a chael gweld y byd trwy lygaid plentyn unwaith eto.

Byddwn i’n dwlu gwybod beth mae e’n meddwl o’i gartref bach a’i fywyd newydd sbon.

Ffynhonnell y llun, Megan Eluned Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dyfed, Megan ac Eurig sy’n 10 mis oed


BBC News

Views: 2

See also  Women's World Cup qualifying: Rhian Wilkinson reveals Wales team plane was struck by lightning

Check Also

Olivia Rodrigo 'had to eat sausage rolls all day' in Welsh town

The pop superstar says she could not get her credit card to work anywhere outside …

Ai gwahardd cyfryngau cymdeithasol yw’r ateb i ddiogelu pobl ifanc?

Ychwanegodd hefyd ei bod yn credu bod pobl yn aml yn fwy parod i ddweud …

Newport County transfer news: Harrison Biggins signs permanent deal with Exiles

Newport County have completed the signing of midfielder Harrison Biggins on a permanent deal. The …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Real estate consultant location coconut point residences. We spend most of our time selecting the world’s finest cashew nuts. Just a moment....