google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Iestyn Jones, Dros Dro

Bac72b90 241a 11f0 9f6a cdae3e54785e.jpg

Iestyn JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Jones, drymiwr Dros Dro – fu’n fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ac yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni

Mae’r band Dros Dro wedi dychwelyd o Iwerddon ar ôl cipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Wedi’r llwyddiant yn Cân i Gymru yn gynharach eleni, Troseddwr Yr Awr aeth â hi yn nhref Carlow hefyd.

Drymiwr y band Iestyn Jones sy’n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Adeiladu dyn eira gyda’m mrawd pan o’n i ryw dair neu bedair oed pan welais i eira am y tro cyntaf.

Iestyn a'i frawd gyda dyn eiraFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Profiad newydd – Iestyn gyda’i frawd mawr Gruffudd yn yr eira

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Teyrngar, caredig a phwyllog.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Pan ges i’n ethol i Senedd Ieuenctid Cymru nôl yn 2023, a chael y cyfle i eistedd yn Siambr y Senedd yn cynrychioli fy ardal i.

Mae’n bendant yn ddigwyddiad sy’n aros yn y cof fel un hapus dros ben.

Iestyn Jones tu allan i Senedd CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl ei brofiad yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru, mae Iestyn bellach yn astudio Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Tra ro’n ni mas yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yr wythnos ddiwetha’, daeth Gwyddel ata i yn siarad Cymraeg rhugl, a’r unig air Gwyddelig ro’n i’n gwybod oedd Sláinte! Felly fydda i cant y cant yn ymarfer mwy ar gyfer y tro nesaf!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albwm a pham?

 bod yn hollol onest, does dim rili hoff lyfr, ffilm neu albym gen i, ma’n tâst i’n newid yn gyson – o lyfrau gwleidyddol i lyfrau ffuglen, ffilms digri i ffilms dogfen ac o roc i jazz!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Siŵr o fod noson Cân i Gymru – falle fydden i ddim yn gweud “crio” ond yn bendant daeth ambell i ddeigryn i’r llygaid. Lot o emosiynau gwahanol yn dod i’r wyneb!

Dros DroFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Band o Sir Gâr ydy Dros Dro, ac yn gyn-ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Bro Myrddin

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Gwastraffu amser! Dwi’n trio fy ngorau i wella ar hwn, ond tra’n ysgrifennu traethodau prifysgol mae’r demtasiwn i gael pip cloi ar y ffôn gan amlaf yn troi yn hanner awr o sgrolio!

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Mae noson Cân i Gymru tuag at y top, ond fi’n amau roedd y noson enillon ni wobr cystadleuaeth y gân orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd jyst yn dod i’r brig.

Roedd ein teuluoedd ni i gyd mas yn Iwerddon gyda ni, felly ar ôl y gystadleuaeth aethon ni i gyd gyda’n gilydd i Tully’s Bar yng nghanol Carlow i ddathlu’r fuddugoliaeth. Ro’dd pawb ‘na, o’r rhai 10 oed i 80 – pawb yn joio gyda’n gilydd.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Clwb criced RhydamanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fy hoff le yw ble bynnag dwi’n cael y cyfle i rannu llwyfan gyda phum ffrind a chwarae ein cerddoriaeth yn fyw a gweld pobl yn dawnsio! Ond o ran lle penodol personol, cae criced Rhydaman ar brynhawn ddydd Sadwrn braf yn chwarae i dîm y dre’.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Michael Eavis. Fydden i’n gofyn yn garedig os oes slot i’r band ar Pyramid Stage Glastonbury – ‘legend slot’ will do, ond hapus i ‘whare unrhyw lwyfan arall wrth gwrs!

Torf GlastonburyFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

“Rhowch groeso i… Dros Dro!” Y flwyddyn nesaf efallai – llun o’r dorf yn Glastonbury yn 2024

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Brecwast mawr gyda’r teulu, gêm o griced ym mharc Rhydaman a gig gyda Dros Dro yn y nos – headlino Llwyfan y Maes neu Maes B efallai!

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Y band Dros Dro gyda'u teuluoeddFfynhonnell y llun, Yr Wŷl Ban Geltaidd
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu ennill y wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn nhref Carlow ar Ebrill 25, 2025

Dyma lun o’r band a’n teuluoedd ni wedi i ni ennill mas yn Carlow. Pawb a’r bobl bwysicaf iddyn nhw mewn un man.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwlen i fod yn fy mrawd i, jest er mwyn profi pa mor awesome yw e i gael fi fel brawd – gutted fyddai byth yn gwbod siwd mae e’n teimlo!

Ond i fod yn gwbl onest, dwi ddigon hapus gyda phwy ydw i felly fydden i ddim ishe bod yn unrhyw un arall.


BBC News

Views: 0

See also  Caerphilly Road: Man in court charged with murder after mum found dead

Check Also

Welsh leaders to make final pitches to voters ahead of crucial election

Wednesday will be the last day for Wales’ parties to campaign for support ahead of …

Nigel Farage says Wales has become a 'basket case' under Labour

Reform’s leader called for voters to leave Labour in “smithereens” at his party’s final Welsh …

Wrexham AFC: Rob Mac and Ryan Reynolds face Kop expansion challenge

Highways officers say the area around the SToK Cas Ras cannot cope with the extra …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.