google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Ateb y Galw: Dïon Wyn

17678230 5b31 11f0 b5c5 012c5796682d.jpg

Dïon WynFfynhonnell y llun, Dïon Wyn

‘Cofi’ i’r carn yw Dïon Wyn a fo sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw i ni yr wythnos yma.

Mae Dïon yn gerddor sydd newydd ryddhau EP, dolen allanol o’r enw I’r Diwedd ynghyd â ffilm fer atodol, dolen allanol.

Mae o hefyd yn gyfarwyddwr ffilm a theledu ac yn gyfrifol am y ffilm ddogfen Y Lein sydd yn olrhain hanes anghydfod Friction Dynamics.

Dyma ddod i nabod Dïon yn well…

Beth yw dy atgof cyntaf?

Dydi pobl ddim yn coelio fi pan dwi’n deud hyn, ond mae atgof cyntaf fi cyn i mi droi yn un oed. Mi on i’n eistedd o flaen teledu, yn gwylio fideo Peter Gabriel Sledgehammer yn transfixed.

Os mae ‘na rywun ddim yn gwybod beth ydi hynny, cerwch i weld o – hawdd i weld pam fyse fo wedi bod yn mesmerizing i blentyn, heb sôn am y gân hefyd.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fel Cofi, sut alla i ddeud unrhyw le arall heblaw Caernarfon?

Mae o’n le sydd yn creu pobl mor llawn o fywyd, chymeriad a iaith. Mae yna deimlad o adra yna sydd ddim cweit yn bodoli yn nunlle arall.

Wrth ochr y cae yn Yr Ofal, yn yfed peint ar wal yr Anglesey, uwchben Twthill yn edrych dros y dre i gyd. Adra.

Beth yw’r noson orau i ti ei chael erioed?

Mae yna dipyn o contenders yn fan hyn; noson priodas fi, gwylio Oasis efo nhad i yn 2009, ond ‘na i ddweud oedd premiere fy ffilm ddogfen cyntaf i Y Lein: Streic Friction Dynamics yn 2023 yn un mawr.

Oedd o yn brosiect mi o’n i wedi gweithio i drio gwneud am chwe mlynedd ac oedd y streicwyr wedi cael gweld ar y noson hwnnw bod pobl byth am anghofio ymdrech nhw i sefyll dros y cenhedlaeth i ddod. Noson balch iawn i mi.

Dau berson ar lwyfanFfynhonnell y llun, Dïon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dïon yn ystod dangosiad cyntaf ei ffilm ddogfen Y Lein

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Laid-back, angerddol, creadigol.

Dyn yn chwarae gitârFfynhonnell y llun, Dïon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dïon yn perfformio un o’i ganeuon ar y gitâr acwstig

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Y pethau bach ydyn nhw i ddweud y gwir, wel, bach i rai ella. Beth sydd yn gwneud i fi wenu o hyd ydi meddwl am fy merch i yn eistedd i fyny am y tro gynta, neu pan wnaeth hi ddysgu sut i dynnu tafod. Pethau bach, ond efo effaith mor, mor fawr arna i.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?

Fel cerddor, mae yna dipyn o gigs sydd wedi bod yn disasters.

Un alla i feddwl am yw pan o’n i’n dechrau canlyn fy ngwraig, oedd gen The Routines gig yn Llanberis a mi wnes i ofyn i hi ddod draw i weld ni. Wel, mi aeth bob dim o’i le y noson hwnnw o’r sŵn, i’r offerynnau, disaster...

Ond, ma hi dal efo fi felly, dim yn rhy bad!

BandFfynhonnell y llun, Dïon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Cyn dod yn artist unigol, roedd Dïon arfer chwarae gyda band o’r enw The Routines

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mae nhw’n dweud bod cael plant yn newid bob dim. A dwi’n deall rŵan bod o.

Mae ‘na deimlad od iawn yn digwydd lle ti’n deall nad ydi dy blentyn am fod yr oed yna byth eto ac ti’n methu nhw… cyn iddyn nhw droi yn hŷn.

Ond ie, mae hyn wedi gwneud i mi grio un neu ddau o weithiau yn ddiweddar. Dwi’n gwbo’, proper softy!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ysmygu oedd y peth mwya’ erioed, mi wnes i allu rhoi gora iddi pan oedd fy ngwraig i yn disgwyl ond erbyn y diwedd mi o’n i wedi troi i vapes wedyn. Rhywbeth dwi angen rhoi clec i yn handi!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Dwi’n gwybod bod rhan fwyaf o bobl wedi cael darllen hwn yn yr ysgol ond mi wnes i mond darllen o rhyw bump i chwe mlynedd yn ôl. Mae’n siŵr o’n i off yn sâl tra oedd pawb arall yn darllen o ella. Ond… Of Mice and Men gan John Steinbeck.

Yn stori mor poignant am gariad a brawdgarwch. Ac i’r awdur gael o mor berffaith mewn llyfr mor fyr… anhygoel.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Dau ddynFfynhonnell y llun, Dïon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dïon (ar y dde) a’i frawd Owi (ar y chwith) mewn noson wobrwyo

Dywedwch rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi’n casau nionod. As in, casau nhw. Hate ’em.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Gwario amser efo fy nheulu, chwarae o gwmpas efo fy merch i, panad on the go, does na’m curo hynny.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Y llun yma o fi a fy mrawd fel plant. Mae’r berthynas rhwng ni’n dau wedi bod yr asgwrn cefn i allu adeiladu ein bywydau ac wedi cario mlaen i fod ers y dyddiau cynnar yma.

PlantFfynhonnell y llun, Dïon Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dïon a’i frawd Owi tra’n blant

Petaet ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo neu hi?

Advertisements

Yr unig deimlad dwi’n meddwl sydd yn hollol unreachable mewn bywyd i mi ydi sgorio gôl o flaen y Kop yn Anfield. Felly, mi wnai bigo i fod yn Mo Salah am ddiwrnod i allu byw trwy hynny.

Mo SalahFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Dïon fod yn Mo Salah am ddiwrnod er mwyn gallu sgorio gôl o flaen y Kop

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

See also  Rail passengers face fines as Wales' penalty zones expanded

Check Also

Plaid Cymru wedi ‘dysgu gwersi’ ar ôl methu â phasio cyllideb atodol

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar ei fod yn “falch o weld y math …

‘Fi’n talu’n ôl i bobl Caernarfon am dderbyn outsider fel fi’

Mae’n dweud ei fod yn elwa o boblogrwydd prynu dillad ail-law, wrth i bobl symud …

Dan Watts: Exeter sign midfielder from Swansea City on loan

Exeter have signed midfielder Dan Watts from Championship leaders Swansea on a season-long loan. The …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime