google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arweinydd cwlt rhyw ‘ffiaidd’ yn cael gwrandawiad parôl

Advertisements

Roedd y cwlt, oedd yng Nghlos yr Onnen, yn gyfrifol am droseddau erchyll yn erbyn plant a phobl ifanc.

Cafodd Jacqueline Marling, 42, ei charcharu am 12 mlynedd tra bod gwraig Batley, Elaine, oedd yn 47, wedi’i charcharu am wyth mlynedd.

Cafodd Shelly Millar, 35, ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar a chafodd ei disgrifio fel “caethwas rhyw” i Batley.

Roedd y grŵp yn defnyddio credoau Ocwlt i gyfiawnhau’r gamdriniaeth ac i orfodi’r dioddefwyr i gymryd rhan.

Clywodd y llys fod Batley wedi defnyddio ei rôl fel arweinydd y cwlt i dreisio bechgyn a merched.

Roedd Batley ac eraill wedi defnyddio gweithiau Aleister Crowley – The Book of Law – sydd yn canmol puteindra – fel arweiniad a rhaglen ar gyfer eu gweithredoedd.

Roedd yn defnyddio’r ocwlt fel ffordd o reoli a dylanwadu ar ddioddefwyr.

Dywedodd y Barnwr Thomas fod Batley wedi symud o Lundain i Gymru yn y 1990au ac wedi ffurfio’r cwlt yng Nghydweli.

“Mae’r hyn ddigwyddodd yn dilyn hynny wedi pardduo enw tref Cydweli,” meddai ar y pryd.

“Fe grewyd cymuned o fewn cymuned. Fe ddisgrifiwyd chi fel person ffiaidd. Mae hynny, yn fy marn i yn ddisgrifiad cwbl addas o’ch cymeriad.”


BBC News

See also  PCC elections: Who is standing in Wales' police elections?

Check Also

Boccia World Championships: Smith seeks to regain ‘Triple Crown’

British boccia star David Smith is seeking to reclaim the ‘triple crown’ of the sport …

Cwm Rhondda pipe organ to be restored for 120th anniversary

The final service at the chapel was held in December 2024, and it was put …

Ben Cabango gives Swansea City fresh centre-back injury concern

Swansea City have a fresh injury concern in central defence after Ben Cabango was forced …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime