google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Aros 30 mlynedd mewn achos cam-drin rhyw wedi methiannau heddlu

Gorchmynnodd y CPS i’r swyddog heddlu oedd yn gyfrifol am yr achos ofyn i’w rhieni a oedden nhw’n hapus i Michaela wynebu cael ei chroesholi yn y llys, ond dywedodd Stephanie na ddigwyddodd hynny erioed.

“Fe wnes i ffonio’r orsaf heddlu yn barhaus i ddarganfod beth oedd yn digwydd, ac er y bydden i’n cael gwybod y byddai rhywun yn dod yn ôl ata i, doedd neb yn gwneud,” meddai Stephanie.

Dros y blynyddoedd, dywedodd Michaela y byddai’n gofyn i’w mam a oedd yr heddlu wedi cymryd unrhyw gamau, gan annog Stephanie i fynd ar ôl y swyddogion dan sylw dro ar ôl tro.

Yn 2017 ceisiodd Michaela ailagor ei hachos, dim ond i gael gwybod na ellid dod o hyd i’r dystiolaeth fideo.

Er mai Heddlu De Cymru oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad gwreiddiol, fe newidiodd y ffin yn 1996 gan olygu mai Heddlu Gwent oedd wedyn â chyfrifoldeb dros Gaerffili.

Mewn ymchwiliad gan Heddlu Gwent yn 2018, dywedwyd nad oedd y swyddog yn yr achos gwreiddiol yn gallu cofio’r achos, ond roedd yn honni y byddai wedi dilyn cyfarwyddyd y CPS.

Heb unrhyw gamau pellach, dywedodd yr heddlu y byddai’r dystiolaeth fideo wedi cael ei “daflu i ffwrdd yn gyfreithlon yn 1996”.


Source link

Views: 0

See also  Grieving parents fight for change and wait time woes

Check Also

'Rhan o hunaniaeth y plant': pwysigrwydd dysgu am Aberfan

Mae dysgu am drychineb Aberfan yn “hanfodol” i hunaniaeth plant y pentref, yn ôl pennaeth …

Mimi Xu: Expectation a privilege for Wales’ teenage tennis star

Xu will likely play in qualifiers at Ilkey, Nottingham, Eastbourne and Roehampton, but the postcode …

Siom wrth i Gymru golli yn Rwmania

Colli o 2-1 wnaeth tîm dynion Cymru yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Rwmania yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Pontoon boat transport. Just a moment.... 429 too many requests.