google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Argyfwng llythrennedd yn ein hysgolion – Beirdd Plant Cymru

Advertisements

Mae yna argyfwng llythrennedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru, yn ôl Beirdd Plant Cymru.

Yn ol Siôn Tomos Owen, Bardd Plant Cymru, a Nicola Davies, Children’s Laureate Wales, mae “cwymp dramatig” wedi bod yn lefelau llythrennedd a darllen er pleser ymysg plant oedran ysgol Cymru.

Mewn llythyr agored maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru am “fuddsoddiad gwirioneddol yn nyfodol ieuenctid y wlad”.

Byddai hyn yn cynnwys creu strategaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg, a sicrhau bod llyfrgell ym mhob ysgol.

Mae’r llythyr wedi ei gymeradwyo gan nifer o feirdd sydd wedi ymgymryd â rolau beirdd plant Cymru yn y gorffennol neu wedi gweithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys Mei Mac, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones, Ifor ap Glyn, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Anni Llŷn, Casia Wiliam a Nia Morais.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.


BBC News

Views: 2

See also  Robat Arwyn i arwain perfformiad o'i waith, Atgof y Sêr

Check Also

Murderer David Braddon used phone in jail to tell women to move money

Nadine fought back tears as she read her statement to the court. “My stomach dropped,” …

One-Day Cup: Guest ton leads Derbyshire to win over Glamorgan

Derbyshire recalled Jewell for Yousaf Bin Naeem while Glamorgan brought back 17-year-old Tom Edwards for …

‘Surreal’ moment as Welsh actor Rex Hayes joins Ted Lasso cast

Sadly, though, we won’t be hearing any Welsh in Ted Lasso. “You won’t meet me …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa basic units (battery carrier).