google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio tri wedi i gar gael ei yrru i mewn i ddyn ym Methesda

BethesdaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrae honedig rhwng pedwar o bobl ar Stryd Fawr Bethesda ddydd Llun

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i gar gael ei yrru i mewn i berson ym Methesda.

Dywedodd yr heddlu bod adroddiadau o ffrae honedig rhwng pedwar o bobl ar y Stryd Fawr tua 13:00 ddydd Llun.

Yn fuan wedyn cafodd car ei yrru i mewn i un o’r dynion oedd yn rhan o’r digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe gafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty. Mae bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae dau ddyn 19 a 33 oed, a menyw 35 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac maen nhw yn parhau yn y ddalfa.

Anogaeth i beidio â rhannu fideos

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Burrow: “Rydym yn ymwybodol bod lluniau sy’n peri gofid yn sgil y digwyddiad hwn yn cael eu rhannu ar-lein, a byddwn yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio â rhannu’r fideos hyn ymhellach.

“Mae presenoldeb yr heddlu wedi cynyddu yn yr ardal ddydd Mawrth wrth i ni geisio dod o hyd i’r person arall a oedd yn cael ei amau, sydd bellach wedi cael ei arestio.

“Bydd swyddogion yn aros yn yr ardal am gyfnod er mwyn tawelu ofnau pobl leol.

“Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau gysylltu â’r heddlu.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Advertisements

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Views: 0

See also  Prince Andrew urged to testify to Congress over Epstein

Check Also

Man caught by sniffer dog behind fake wall jailed on cannabis farm

A man has been jailed for six months after being found by a sniffer dog …

Wales national social care service will not come before next Senedd election – minister

A national social care service for Wales will not be achieved in this Senedd term, …

Swansea City transfer news: Swans seal loan swoop for Benfica’s Tiago Parente

Speaking after his side’s 1-0 pre-season win over Leganes at Swansea.com Stadium on Saturday, head …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime